Mary Gawthorpe

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mary Gawthorpe
Mary Gawthorpe, 1908. (22358671834).jpg
Ganwyd 1881 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Bu farw 1973 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswyl Leeds Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr, golygydd, undebwr llafur, ymgyrchydd pleidlais i ferched, hunangofiannydd, Gwleidydd, Swffraget Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Mary Eleanor Gawthorpe (12 Ionawr 188112 Mawrth 1973)[1] yn swffraget, sosialydd, undebwr llafur a golygydd.[2]

Yn 1905 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched. Yn 1906, stopiodd ddysgu a daeth i weithio'n llawn amser fel trefnydd ar gyfer yr Undeb yn Leeds. Daeth Sylvia Pankhurst i Leicster yn 1907 ac ymuno â Alice Hawkins a gyflwynodd y naill i'r llall gan sefydlu presenoldeb yr Undeb yn Leeds.[3]

Yn ddiweddarach ymunodd â Christabel Pankhurst yng Nghymru, lle'r oedd ei chefndir dosbarth gweithiol a'i chysylltiad â'r symudiad llafur o fudd iddi. Mewn cyfarfod yng Nghymru, a drefnwyd gan Samuel Evans oedd yn sefyll etholaeth fel cynrychiolydd Cymraeg yn y Llywodraeth, cwestiynodd Gawthorpe ef yn dwll mewn Cymraeg perffaith.[4] 

Yn ogystal a chael ei charcharu sawl gwaith dros ei gweithgareddau gwleidyddol, cafodd Gawthorpe hefyd ei churo'n ddrwg, gan ddioddef anafiadau difrifol am heclo Winston Churchill yn 1909.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]