Mary Eleanor Wilkins Freeman

Oddi ar Wicipedia
Mary Eleanor Wilkins Freeman
GanwydMary Eleanor Wilkins Edit this on Wikidata
31 Hydref 1852 Edit this on Wikidata
Randolph, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Metuchen, New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Mount Holyoke Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur plant, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amA New England Nun, Young Lucretia and Other Stories, The Pot of Gold and Other Stories, Pembroke, Collected Ghost Stories Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal William Dean Howells Academi Celfyddydau America Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Americanaidd oedd Mary Eleanor Wilkins Freeman (31 Hydref 1852 - 13 Mawrth 1930) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, nofelydd, awdur plant a bardd.

Fe'i ganed yn Randolph, Massachusetts ar 31 Hydref 1852; bu farw yn Metuchen ac fe'i claddwyd yn New Jersey. Ei rhieni oedd Eleanor Lothrop a Warren Edward Wilkins, a fedyddiodd hi yn wreiddiol "Mary Ella". Roedd rhieni Freeman yn Annibynwyr uniongred, a chafodd blentyndod llym iawn. Mae cyfyngiadau crefyddol ei magwraeth yn chwarae rhan allweddol yn rhai o'i gwaith.[1][2][3][4][5][6]

Yn 1867, symudodd y teulu i Brattleboro, Vermont, lle graddiodd Freeman o'r ysgol uwchradd leol cyn mynychu Coleg Mount Holyoke (yna, Mount Holyoke Women Seminary) yn Ne Hadley, Massachusetts, am flwyddyn, o 1870–71. Yn ddiweddarach, cwblhaodd ei haddysg yn Glenwood Seminary yng Ngorllewin Brattleboro. Pan fethodd busnes nwyddau-sych y teulu yn Vermont yn 1873, dychwelodd y teulu i Randolph, Massachusetts. Bu farw mam Freeman dair blynedd yn ddiweddarach, a newidiodd Mary ei henw canol i "Eleanor" i gofio amdani. [7]

Y llenor[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Freeman ysgrifennu straeon a cherddi ar gyfer plant tra'n dal i fod yn eu harddegau i helpu i gefnogi ei theulu'n ariannol a daeth yn llwyddiannus dros nos. Lansiwyd ei gyrfa fel awdur storiau byrion yn 1881 pan ddaeth yn gyntaf mewn cystadleuaeth stori fer gyda'i chyflwyniad “The Ghost Family.”

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ddau gasgliad o straeon: A Humble Romance and Other Stories (1887) ac A New England Nun and Other Stories (1891). Mae ei straeon yn delio'n bennaf â bywyd Lloegr Newydd ac maent ymhlith y gorau o'u math. Mae Freeman hefyd yn cael ei chofio am ei nofel Pembroke (1894), a chyfrannodd bennod nodedig i'r nofel gydweithredol The Whole Family (1908).

Trwy ddefnyddio gwahanol genres - gan gynnwys straeon, cerddi a straeon byrion plant, ceisiodd Mary Wilkins Freeman ddangos ei gwerthoedd fel ffeminist. Yn ystod yr amser yr oedd yn ysgrifennu, gwnaeth hyn mewn ffyrdd anghonfensiynol; er enghraifft, nid oedd yn gwneud ei chymeriadau benywaidd yn wan ac angen cymorth, a oedd yn arferiad cyffredin mewn llenyddiaeth yr adeg honno.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: A New England Nun, Young Lucretia and Other Stories, The Pot of Gold and Other Stories, Pembroke a Collected Ghost Stories.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal William Dean Howells Academi Celfyddydau America .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13327202f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Mary_E._Wilkins. https://www.bartleby.com/library/bios/index3.html.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13327202f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103
  4. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13327202f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Mary Eleanor Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Eleanor Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Eleanor Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary E. Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Eleanor Freeman". "Mary E. Wilkins". "Mary Eleanor Freeman".
  5. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13327202f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Mary Eleanor Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Eleanor Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Eleanor Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary E. Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Wilkins Freeman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Eleanor Freeman". "Mary Eleanor Freeman".
  6. Man geni: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Mary_E._Wilkins.
  7. Alma mater: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Mary_E._Wilkins.