Mary Davies (Mair Eifion)
Mary Davies | |
---|---|
Ganwyd | 17 Hydref 1846 Porthmadog |
Bu farw | 8 Hydref 1882 Porthmadog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
Roedd Mary Davies (Mair Eifion) (17 Hydref 1846 – 8 Hydref 1882) yn dafarnwraig ac yn fardd Cymreig a oedd yn ymgyrchu tros gydnabyddiaeth deilwng i gyfraniad beirdd a llenorion benywaidd Cymru[1].
Bywyd Personol[golygu | golygu cod]
Ganwyd Mary Davies ym Mhorthmadog yn ferch i'r Capten Lewis Davies a Jennet (cynt Ellis) ei wraig. Roedd Capten Lewis yn forwr a oedd hefyd yn cadw Tafarn y Tregunter yn ardal y cei Porthmadog. Er nad yw'n dafarn bellach mae'r adeilad yn dal i sefyll ac yn Adeilad Rhestredig Gradd II[2]. Wedi marw Capten Davies fu Mair yn cynorthwyo ei fam i redeg y dafarn.
Cafodd ei addysgu yn breifat mewn ysgol a gadwyd gan ferch Gwilym Hiraethog
Ni fu yn briod.
Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]
Roedd tad Mair Eifion yn brydydd gwlad poblogaidd ac fe fagodd ef ddiddordeb yn yr awen yn ei ferch. Cafodd hi addysg farddol bellach gan Ioan Madog a'r Prifardd Emrys[3]. Cyhoeddwyd peth o'i cherddi yn y cylchgrawn Y Dysgedydd a olygid gan Emrys. Yn wahanol i nifer o feirdd benywaidd ei chyfnod ni chafodd ei chyhoeddi yn y cylchgronau ar gyfer benywod; roedd y cylchgronau hyn yn rhoi bri mawr i ddirwest a gwaith Undebau Dirwest y Merched; fel merch tŷ tafarn doedd dim croeso iddi a'i chysylltiadau a'r ddiod felltith yn y cylchgronau[4].
Bu Mair Eifion yn cystadlu'n llwyddiannus yn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol. Cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd fel Barddones, yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1875[5].
Bu llawer o waith Mair Eifion yn pwysleisio enw da merched Cymru a phwysigrwydd cyfraniad merched i'r byd llenyddol (Myn enw werth ei gerfio.... / A dyro brawf yn eglur / Fod merch yn meddu dawn). Roedd hi am greu cymdeithas i feirdd a llenorion benywaidd Cymreig i roi mwy o gyhoeddusrwydd i'r sawl oedd eisoes yn llenydda ac i annog eraill i wneud[6]. Oherwydd gwrthwynebiad rhai o'i chyfoedion benywaidd i'w cysylltiadau a'r dafarn a thrwy ei farwolaeth ifanc ni wireddwyd ei breuddwyd.
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Bu farw yn Nhafarn Tregunter yn 35 mlwydd oed. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent capel yr Annibynwyr, Soar, Talsarnau[7].
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]
Cyhoeddwyd Blodau Eifion, gwaith barddonol Mair Eifion, golygydd Gwilym Eryri (William Roberts) ym 1885.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Y Bywgraffiadur DAVIES , MARY (‘ Mair Eifion ’; 1846 - 1882 ), bardd adalwyd 22 Mawrth 2018
- ↑ Tregunter, including forecourt railings and gate A Grade II Listed Building in Porthmadog, Gwynedd adalwyd 22 Mawrth 2018
- ↑ Cymru Cyfrol 54, 1918 Tud 83 Gwyr Eifionnydd adalwyd 22 Mawrth 2018
- ↑ Nineteenth-Century Women's Writing in Wales, Nation, Gender, Identity – Jane Aaron; Gwasg Prifysgol Cymru 2010 ISBN 9780708320600
- ↑ "EISTEDDFOD FREINIOL GENEDLAETHOL PWLLHELI - Llais Y Wlad". Kenmuir Whitworth Douglas. 1875-09-03. Cyrchwyd 2018-03-22.
- ↑ "BARBARA JONES A'R BEIRDDESAU CYMREIG - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1878-06-27. Cyrchwyd 2018-03-22.
- ↑ "PORTHMADOG - Y Dydd". William Hughes. 1882-10-13. Cyrchwyd 2018-03-22.