Mary Catherine Pendrill Llewelyn
Gwedd
| Mary Catherine Pendrill Llewelyn | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Mawrth 1811 Y Bont-faen |
| Bu farw | 19 Tachwedd 1874 Y Bont-faen |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyfieithydd |
| Priod | Richard Pendrill Llewelyn |
Cyfieithydd ac awdures oedd Mary Catherine Pendrill Llewelyn (née Mary Catherine Rhys; 12 Mawrth 1811 – 19 Tachwedd 1874).
Fe'i ganed yn y Bont-faen. Priododd y Parch. R. Pendrill Llewelyn, ficar Llangynwyd, ger Maes-teg, Morgannwg. Roedd ganddi hi a'i gŵr ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg a chyhoeddodd lawer o'i cherddi yn y Cambrian and Merthyr Guardian.
Un o'i gweithiau pwysicaf yw ei chyfieithiad o emynau William Williams, Pantycelyn (ac awduron eraill) a gyhoeddodd yn 1850.[1] Dywedir iddi hefyd gyfieithu nifer o faledi gan Dafydd Nicolas.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "LLEWELYN, MARY PENDRILL, gynt Mary Catherine Rhys (1811-1874), cyfieithydd ac awdur". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 20 Awst 2025. Unknown parameter
|awdur=ignored (help)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Mrs Ray Morgan, Caerdydd / Rhymni
- Mrs. Penderel Llewelyn, casgliad o emynau a gyfieithwyd ganddi, Llundain, 1857 ;
- T. C. Evans (‘Cadrawd’), HHanes Plwyf Llangynwyd Parish, Llanelli, 1887, 1887 (188);
- Notable Welshmen (1700–1900), 1908 ;
- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 1948, 254, 256, 257.