Mary Anning

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Portrait of a woman in bonnet and long dress holding rock hammer, pointing at fossil next to a spaniel dog lying on ground.
Portread o Mary Anning a'i chi, Tray, cyn 1842.

Casglydd ffosiliau a phalaeontolegydd o Loegr oedd Mary Anning (21 Mai 1799 - 9 Mawrth 1847). Daeth yn adnabyddus ledled y byd am ddarganfyddiadau pwysig a wnaed ganddi mewn gwelyau ffosil morol Jwrasig yn y clogwyni ar hyd Sianel Lloegr yn Lyme Regis yn swydd Dorset yn ne-orllewin Lloegr.[1] Cyfrannodd ei chanfyddiadau at newidiadau pwysig mewn meddwl gwyddonol am fywyd cynhanesyddol a hanes y Ddaear .

Byddai Anning yn chwilio am ffosilau yng nghlogwyni Blue Lias, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan oedd tirlithriadau'n amlygu ffosilau newydd y bu'n rhaid eu casglu'n gyflym cyn iddynt gael eu colli i'r môr. Bu bron iddi farw yn 1833 mewn tirlithriad a laddodd ei chi, Tray. Roedd ei darganfyddiadau yn cynnwys y sgerbwd ichthyosaur cyntaf; dau o'r sgerbydau plesiosaur (bron â bod) cyflawn cynharaf; y sgerbwd pterosaur cyntaf i'w ddarganfod y tu allan i'r Almaen; ynghyd ag amryw o ffosilau pysgod pwysig. Chwaraeodd ei harsylwadau rôl allweddol yn y darganfyddiad bod coprolitau, a elwid yn gerrig besoar ar y pryd, yn ysgarthion a oedd wedi'u ffosileiddio. Darganfu hefyd fod ffosilau belemnit yn cynnwys codennau inc wedi'u ffosileiddio fel rhai o seffalopodau modern. Pan beintiodd y daearegwr Henry De la Beche ei waith Duria Antiquior, y gynrychiolaeth ddarluniadol gyntaf o olygfa o fywyd cynhanesyddol a ddeilliodd o adluniadau ffosil, fe'i seiliwyd yn bennaf ar ffosilau y gwnaeth Anning eu darganfod, a gwerthodd brintiau ohono er ei budd.

Fel menyw ac yn Ymneilltuwraig, nid oedd Anning yn cyfranogi'n llawn yng nghymuned wyddonol gwledydd Prydain y 19eg ganrif, gan mai boneddigion Anglicanaidd yn bennaf oedd yn troi yn y cylchoedd hynny. Cafodd drafferth ariannol am lawer o'i bywyd. Roedd ei theulu'n dlawd, a bu farw ei thad, gwneuthurwr cabinet, pan oedd yn un ar ddeg oed.

Cliff wall with layers of rock next to a rocky beach
Clogwyni Lias Glas, Lyme Regis
Llythyr a darlun gan Mary Anning yn rhannu'r newydd am ddarganfod ffosil sydd bellach yn cael ei adnabod fel Plesiosaurus dolichodeirus, 26 Rhagfyr 1823

Daeth Anning yn adnabyddus mewn cylchoedd daearegol yng ngwledydd Prydain, gweddill Ewrop ac yn America, ac ymgynghorwyd â hi ar faterion anatomeg yn ogystal â chasglu ffosilau. Serch hynny, fel menyw, nid oedd yn gymwys i ymuno â Chymdeithas Ddaearegol Llundain ac ni chafodd bob amser gydnabyddiaeth lawn am ei chyfraniadau gwyddonol. Yn wir, ysgrifennodd mewn llythyr: "Mae'r byd wedi fy nefnyddio mewn ffordd mor angharedig, rwy'n ofni ei fod wedi gwneud i mi amau pawb."[2] Ymddangosodd yr unig ysgrif wyddonol a gyhoeddodd yn ystod ei hoes yn y Magazine of Natural History ym 1839, darn o lythyr oedd Anning wedi'i ysgrifennu at olygydd y cylchgrawn yn cwestiynu un o'i honiadau.[3]

Ar ôl ei marwolaeth yn 1847, denodd hanes anarferol ei bywyd ddiddordeb cynyddol. Ysgrifennodd un awdur di-enw yn All the Year Round, a olygwyd gan Charles Dickens, y geiriau canlynol amdani ym 1865: “mae merch y saer wedi ennill enw iddi'i hun, ac mae wedi ei haeddu.”[2] Honnir yn aml mai ei stori oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cwlwm tafod Terry Sullican yn 1908: "She sells seashells on the seashore".[4][5] Yn 2010, 100 mlynedd ar ôl ei marwolaeth, cafodd Anning ei chynnwys ar restr gan y Gymdeithas Frenhinol o ddeg menyw o wledydd Prydain sydd wedi dylanwadu fwyaf ar hanes gwyddoniaeth.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mae Dennis Dean yn nodi fod Anning yn ynganu ei henw fel "Annin" (gweler Dean 1999), a ohan ysgrifennodd ei hennw i Carl Gustav Carus, cynorthwy-ydd i'r Brenin Frederick Augustus II o Sacsoni, ysgrifennodd "Annins" (see Carus 1846).
  2. 2.0 2.1 Dickens, Charles (Chwefror 1865), Mary Anning the Fossil Finder, tt.60-63. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Dickens" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. Torrens 1995
  4. "Archived copy". Archifwyd o y gwreiddiol ar 20 September 2016. Cyrchwyd 2016-08-29.CS1 maint: Archived copy as title (link)
  5. Montanar, Shaena (2015-05-21). "Mary Anning: From Selling Seashells to One of History's Most Important Paleontologists". Forbes [Internet Archive cache]. Archived from the original on 17 March 2016. Cyrchwyd 2016-11-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  6. "Most influential British women in the history of science". The Royal Society. Cyrchwyd 11 September 2010.