Marvin Hagler

Oddi ar Wicipedia
Marvin Hagler
Marvin Hagler yn ymweld â'r Tŷ Gwyn ym 1986.
Ganwyd23 Mai 1954 Edit this on Wikidata
Newark, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 2021 Edit this on Wikidata
Bartlett, New Hampshire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Brockton High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr, actor Edit this on Wikidata
Taldra177 centimetr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.marvelousmarvin.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Paffiwr Americanaidd oedd Marvelous Marvin Hagler (ganed Marvin Nathaniel Hagler; 23 Mai 195413 Mawrth 2021) a fu'n bencampwr pwysau canol y byd o 1980 i 1987.

Ganed Marvin Nathaniel Hagler yn Newark, New Jersey, i deulu Affricanaidd-Americanaidd. Wedi i'w dad, Robert Sims, adael y teulu, cafodd Marvin, ei frawd Robbie, a'u pedair chwaer eu magu gan eu mam Ida Mae Hagler. Yn sgil difrod i'w cartref yn nherfysgoedd hiliol 1967, symudodd y teulu i Brockton, Massachusetts, ac yno dechreuodd Marvin a Robbie baffio. Enillodd Marvin bencampwriaeth amaturaidd yr Unol Daleithiau ym 1973, a throdd yn broffesiynol yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Yn sgil buddugoliaethau yn erbyn y Sais Kevin Finnegan a "Bad" Bennie Briscoe o Philadelphia, cafodd Hagler gontract â Bob Arum, un o'r prif drefnwyr gornestau paffio yn Las Vegas.[1]

Ni fu enillydd yn ei gais cyntaf am deitl y byd, yn erbyn Vito Antuofermo, ym 1979. Enillodd Hagler deitl pwysau canol y byd ym 1980 drwy guro'r Llundeiniwr Alan Minter yn Arena Wembley, ac amddiffynnodd y teitl yn llwyddiannus 12 waith, gan gynnwys yn erbyn Roberto Durán, John Mugabi, a Tony Sibson. Newidiodd ei enw yn swyddogol i Marvelous Marvin Hagler ym 1982, er mwyn gorfodi cyflwynwyr y ring i ddefnyddio'i lysenw. Ei fuddugoliaeth enwocaf, mae'n debyg, oedd yn erbyn Thomas Hearns yn Caesars Palace, Las Vegas, ym 1985, gornest a gafodd ei alw'n syml yn "The Fight". Daeth ei res o lwyddiannau i ben yn erbyn Sugar Ray Leonard ym 1987 yn Caesars Palace, mewn gornest a benderfynwyd gan y beirniaid wedi 15 rownd. Gwrthodai Hagler dderbyn y dyfarniad, ac ymddeolodd o'r ring baffio.[1]

Cafodd Hagler bump o blant gyda'i wraig gyntaf, Bertha. Symudodd i'r Eidal yn sgil ei golled i Sugar Ray Leonard, ac yno actiodd mewn ffilmiau llawn cyffro. Ailbriododd, â'r Eidales Kay Guarrera, yn 2000. Bu farw Marvin Hagler yn 66 oed yn Bartlett, New Hampshire.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) John Rawling, "Marvin Hagler obituary", The Guardian (14 Mawrth 2021). Adalwyd ar 29 Mawrth 2021.
  2. (Saesneg) Richard Goldstein, "Marvelous Marvin Hagler, Middleweight Champion of the 1980s, Dies at 66", The New York Times (13 Mawrth 2021). Adalwyd ar 29 Mawrth 2021.