Martin Waldseemüller
| Martin Waldseemüller | |
|---|---|
| Ganwyd | 1470 Schallstadt |
| Bu farw | 16 Mawrth 1520, 1521, 16 Mawrth 1520 Saint-Dié-des-Vosges |
| Dinasyddiaeth | Margraviate Hachberg-Sausenberg |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | mapiwr, cosmograffwr, diwinydd, daearyddwr |
| Blodeuodd | 1500 |
| Mudiad | y Dadeni Almaenig |
Cartograffwr a thorluniwr pren Almaenig oedd Martin Waldseemüller (hefyd Waltzemüller neu Walzenmüller; tua 1470 – 1520) sydd yn nodedig am gyhoeddi'r map cyntaf i ddefnyddio'r enw America.
Ganed yn Radolfzell, ar lannau'r Bodensee, yn Iarllaeth Württemberg, rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Freiburg ym 1490. Symudodd i Saint-Dié-des-Vosges, Lorraine, a daeth i'r amlwg fel un o wŷr llys René II, Dug Lorraine.[1] Ymgasglodd cylch o ddyneiddwyr, ysgolheigion, a daearyddwyr o'r enw Gymnasium Vosagense yno dan nawdd Gauthier Lud, ysgrifennydd y Dug René, a chawsant ddylanwad pwysig ar gartograffeg a byd-ddarlunio yn yr Almaen yn yr 16g.[2]
Yn Saint-Dié ym 1507 ailgyhoeddodd Waldseemüller gyfieithiad Lladin o lythyr a briodolir i'r fforiwr Amerigo Vespucci, Quattuor Americi navigationes, gyda rhagarweiniad dan y teitl Cosmographiae introductio. Awgrymai Waldseemüller roddi enw Amerigo ar y cyfandir newydd a ddisgrifiwyd yn y llythyr. Ar y pryd, ni chlywodd Waldseemüller am ddarganfyddiadau Cristoforo Colombo yn y Byd Newydd. Yn ddiweddarach, wedi iddo ddysgu am fordeithiau Colombo, ceisiai Waldseemüller hyrwyddo enw arall am y cyfandir, ond erbyn hynny roedd America wedi ennill ei blwyf. Am iddo boblogeiddio'r enw America, gelwir Waldseemüller yn "dad bedydd America".[1]

Hefyd ym 1507, cyhoeddodd Waldseemüller fil o argraffiadau o'i fap o'r byd, Universalis Cosmographia, torlun pren a wnaed gyda 12 o flociau ac ar sail traddodiad y Geographia gan Ptolemi a mordeithiau Vespucci.[3] Dim ond un copi o'r map sydd yn goroesi, a gedwir yn Llyfrgell y Gyngres. Ymddengys yr enw America am y tro cyntaf ar y map hwn, i ddisgrifio De America, a dyma'r map cyntaf i ddangos tiroedd y Byd Newydd ar wahân i gyfandir Asia. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr enw i gyfeirio at Ogledd America hefyd gan Gerardus Mercator a chartograffwyr eraill.
Ym 1507 hefyd creodd Waldseemüller glôb, ac yn ddiweddarach dyluniodd ragor o fapiau o Ewrop (1511) ac ar gyfer argraffiad o weithiau Ptolemi yn Strasbwrg (1513).[1] Dyluniodd ei Carta marina (1516) ar ffurf siart forwrol. Bu farw Martin Waldseemüller yn Saint-Dié tua 50 oed.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 (Saesneg) "Martin Waldseemüller" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Tachwedd 2020.
- ↑ (Saesneg) George Kish, "Waldseemüller, Martin" yn Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Tachwedd 2020.
- 1 2 (Saesneg) Martin Waldseemüller. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2020.