Neidio i'r cynnwys

Mark Reckless

Oddi ar Wicipedia
Mark Reckless
Ganwyd6 Rhagfyr 1970 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Plaid Annibyniaeth y DU, Plaid Brexit, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.markreckless.com Edit this on Wikidata

Gwleidydd asgell dde o Loegr yw Mark Reckless (ganwyd 6 Rhagfyr 1970), sydd ar hyn o bryd yn rhan o Reform UK ond sydd wedi bod yn aelod o sawl plaid.[1]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Cartref wleidyddol cyntaf Mark Reckless oedd y Blaid Geidwadol. Ef oedd eu hymgeisydd (aflwyddiannus) ar gyfer sedd Medway yn etholiad cyffredinol 2001 ac eto yn 2015, a bu'n gweithio ym mhencadlys y Ceidwadwyr (CCO ar y pryd, CCHQ bellach) ar faterion polisi. Fe'i hetholwyd i gynrychioli sedd Rochester a Strood ar ran y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2010.

Fis Medi 2014, ac yntau'n dal yn Aelod Seneddol, gadawodd y Blaid Geidwadol ac ymunodd â UKIP. Penderfynodd ymddiswyddo fel Aelod Seneddol a sefyll eto yn enw ei blaid newydd (yr ail i wneud hynny, ar ôl ei gyfaill Douglas Carswell), ac fe enillodd yr is-etholiad ar 20 Tachwedd 2014. Ni fu'n Aelod Seneddol ar ran UKIP am yn hir, gan iddo golli ei sedd i'r Ceidwadwyr yn Etholiad cyffredinol 2015.

Er nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad â Chymru cyn hynny, yn 2016 cyhoeddodd UKIP mai ef fyddai'r cyntaf ar eu rhestr rhanbarthol ar gyfer Dwyrain De Cymru yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016. Bu'n llwyddiannus (ynghyd â'i gyd-aelod o UKIP David Rowlands (gwleidydd)), a bu'n Aelod Cynulliad ar ran UKIP am bron i flwyddyn.

Yna, fis Ebrill 2017, fe benderfynodd adael UKIP, a dychwelyd i'r Ceidwadwyr.[2] Er na fu iddo ail-ymaelodi â'r blaid, roedd yn aelod o'u grŵp yn y Cynulliad hyd fis Ebrill 2019, pan adawodd, gan ymuno â Phlaid Brexit.[1] Fis Gorffennaf 2020, fe ymadawodd â Phlaid Brexit ac fe aeth at Blaid Diddymu'r Senedd[3] am ei fod am weld diddymu'r Cynlliad roedd yn aelod ohono. Ef oedd ymgeisydd (aflwyddiannus) y blaid wrth-ddatganoli yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 ym Mynwy ac ar frig rhestr Dwyrain De Cymru.

Nid oedd ynghlwm ag unrhyw blaid am gyfnod, nes iddo ail-ymuno â Phlaid Brexit o dan eu henw newydd Reform UK yn 2024. Ef yw eu hail ymgeisydd ar restr Caerdydd Penarth (etholaeth Senedd) yn Etholiad Senedd Cymru, 2026.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Pwy ydi Reformwyr Cymru?". Golwg360. 2026-03-26. Cyrchwyd 2026-03-27.
  2. "Mark Reckless ar fin cefnu ar UKIP i ymuno â'r Ceidwadwyr". BBC Cymru Fyw. 2017-04-05. Cyrchwyd 2026-03-27.
  3. "Adroddiadau bod Mark Reckless wedi ymuno â Phlaid Diddymu'r Senedd". Golwg360. 2020-10-16. Cyrchwyd 2026-03-27.