Marie Luise Kaschnitz
Marie Luise Kaschnitz | |
---|---|
Ganwyd |
31 Ionawr 1901 ![]() Karlsruhe ![]() |
Bu farw |
10 Hydref 1974 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, bardd ![]() |
Adnabyddus am |
Die Reise des Herrn Admet, Ferngespräche ![]() |
Arddull |
nofel, barddoniaeth, stori fer ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Georg Büchner, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Gwobr Lenyddol Georg Mackensen, Gwobr Immermann ![]() |
Gwefan |
http://www.kaschnitz.de/sites/biofr.html ![]() |
Awdures o'r Almaen oedd Marie Luise Kaschnitz (31 Ionawr 1901 - 10 Hydref 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur straeon byrion a bardd. Caiff ei hystyried fel un o'r prif feirdd yn y cyfnod a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd.
Ganed Marie Luise von Holzing-Berslett yn ninas Karlsruhe, yn nhalaith Baden-Württemberg, yr Almaen ar 31 Ionawr 1901; bu farw yn Rhufain. Priododd â'r archeolegydd a'r awdur Guido Freiherr Von Kaschnitz-Weinberg yn 1925, a theithiodd gydag ef ar deithiau archeolegol. [1][2][3][4][5]
Cafodd ganmoliaeth uchel am ei straeon byrion, a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau yn ystod ei bywyd. Casglwyd y straeon hyn mewn llyfrau fel Orte and Engelsbrücke. Ymgorfforodd lawer o'r llefydd a welodd ar ei theithiau yn ei gwaith llenyddol. Mae ei storiau'n feddylgar o ran natur, yn hytrach nag yn llawn digwyddiadau, yn delio â chamau penodol bywyd neu berthynas menyw. Ei phrif gasgliad yw Lange Schatten (Cysgodion Hirion). Ei hoff stori ganddi oedd Das dicke Kind ('Y Plentyn Tew) yn 1961.
Y casgliad o draethodau Menschen und Dinge (1945) oedd y garreg filltir cyntaf iddi, a dyma'r gwaith o gyhoeddodd i ddarllenwyr Almaeneg fod yma lenor arbennig. Ymdriniodd ei cherddi â'r rhyfel a'r cyfnod ar ôl y rhyfel, gan fynegi'r dyhead am heddwch y gorffennol, ond hefyd yn gobeithio am y dyfodol. Roedd y gyfrol Dein Schweigen - meine Stimme (Eich tawelwch - fy llais i) yn delio â marwolaeth ei gŵr. Ar ôl 1960 cafodd ei ddylanwadu gan Pablo Neruda.
Am gyfnod byr, dysgodd wleiyddiaeth ym Mhrifysgol Frankfurt. Roedd yn aelod o PEN ac enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Georg Büchner yn 1955 a Gwobr Roswitha ym 1973. Cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Nobel mewn Llenyddiaeth yn 1967. Bu farw yn 73 oed yn Rhufain. Sefydlwyd 'Gwobr Marie Luise Kaschnitz' yn ei henw, i gofio amdani.
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Georg Büchner (1955)
Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Liebe beginnt (1988) - nofel
- Elissa (1988) - nofel
- Griechische Mythen (1988) - chwedlau Groegaidd
- Menschen und Dinge 1988. Zwölf Essays (1988) - traethodau
- Gedichte (1947) - cerddi
- Totentanz und Gedichte zur Zeit (1947) - cerddi a drama
- Gustave Courbet. Roman eines Malerlebens (hefyd: Die Wahrheit, nicht der Traum) (1950) - nofel
- Zukunftsmusik (1950) - cerddi
- Ewige Stadt (1952) - barddoniaeth am Rufain
- Das dicke Kind (1952) - storiau byrion
- Engelsbrücke. Römische Betrachtungen (1955) - atgofion
- Das Haus der Kindheit (1956) - nofel
- Der Zöllner Matthäus (1956) - drama radio (sgript)
- Lange Schatten (1960) - storiau byrion
- Ein Gartenfest (1961) - dram radio (sgript)
- Dein Schweigen – meine Stimme (1962) - cerddi
- Hörspiele (1962) - dramau radio
- Einer von zweien (1962)
- Wohin denn ich : Aufzeichnungen (1963) - atgofion
- Überallnie (1965) - cerddi
- Ein Wort weiter (1965) - cerddi
- Ferngespräche (1966) - short storiau
- Beschreibung eines Dorfes (1966) - nofel arbrofol
- Tage, Tage, Jahre (1968) - atgofion
- Vogel Rock. Unheimliche Geschichten (1969) - storiau
- Steht noch dahin (1970) - atgofion bywgraffyddol
- Zwischen Immer und Nie. Gestalten und Themen der Dichtung (1971) - traethodau on cerddi
- Gespräche im All (1971) - dramau radio
- Eisbären (1972) - storiau
- Kein Zauberspruch (1972) - poems 1962-1972
- Gesang vom Menschenleben (1974) - cerddi
- Florens. Eichendorffs Jugend (1974)
- Der alte Garten. Ein modernes Märchen (1975)
- Orte (1975) - bywgraffiad
- Die drei Wanderer (1980) - baled
- Jennifers Träume. Unheimliche Geschichten (1984) - storiau
- Notizen der Hoffnung (1984) - traethodau
- Orte und Menschen (1986) - atgofion
- Menschen und Dinge (1986) - atgofion
- Liebesgeschichten (ed. E. Borchers) (1986) - storiau rhamantus
- Tagebücher aus den Jahren 1936-1966 (2000) - dyddiaduron
Rhifynau Americanaidd/Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]
- The House of Childhood (Das Haus der Kindheit)
- Circe's Mountain - casgliad o storiau
- Whether or Not (Steht noch dahin)
- Selected Later Poems of Marie Luise Kaschnitz (ed. Lisel Mueller)
- Long Shadows (Lange Schatten)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12026134w; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 46774699, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018, Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014, Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12026134w; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014, Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12026134w; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014, Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12026134w; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 10 Rhagfyr 2014, Wikidata Q36578
|