Maria Francisca o Bortiwgal
| Maria Francisca o Bortiwgal | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Ebrill 1800 Palas Queluz |
| Bu farw | 11 Medi 1834 Alverstoke |
| Dinasyddiaeth | Sbaen, Teyrnas Portiwgal |
| Galwedigaeth | pendefig |
| Swydd | Member of the Board of Ladies of Honour and Merit |
| Tad | João VI, brenin Portiwgal |
| Mam | Carlota Joaquina o Sbaen |
| Priod | Carlos de Borbón y Borbón-Parma |
| Plant | Juan de Borbón y Bragança, Fernando de Borbón y Bragança, Carlos Luis de Borbón y Bragança |
| Llinach | Llinach Braganza |
| Gwobr/au | Uwch Groes Urdd yr Ymddŵyn Difrycheulyd Vila Viçosa |
Roedd yr Infanta Maria Francisca o Bortiwgal (enw llawn: Maria Francisca de Assis da Maternidade Xavier de Paula e de Alcântara Antónia Joaquina Gonzaga Carlota Mónica Senhorinha Sotera e Caia de Bourbon e Bragança; 22 Ebrill 1800 – 11 Medi 1834) yn aelod o deulu brenhinol Portiwgal.[1]
Ganwyd hi ym Mhalas Queluz ger Lisbon yn 1800, yn ferch i João VI a Carlota Joaquina, brenin a brenhines Portiwgal. Ym 1816 priododd Maria Francisca ei hewythr, yr infante Sbaenaidd Carlos, Conde de Molina.[2] Wedi marwolaeth ei dad Fernando VII ym 1833 roedd Carlos yn ymhonwr i orsedd Sbaen; Carliaeth oedd enw'r mudiad a oedd o'i blaid.
Ym 1833 alltudiwyd Maria Francisca, ei gŵr a'i phlant am iddynt wrthod cydnabod Isabel II fel brenhines Sbaen. Aethant yn gyntaf i Bortiwgal ac yna i Alverstoke yn Hampshire, Lloegr. Bu farw Maria Francisca yn Alverstoke yn 34 oed. Cynhaliwyd ei hangladd yn Eglwys Gatholig y Santes Fair yn Gosport, ger Alverstoke. Trosglwyddwyd ei gweddillion yn ddiweddarach i Gadeirlan Trieste yn yr Eidal, lle mae'r ymhonwyr Carlaidd a'u gwragedd wedi'u claddu.[3]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Maria Francisca yn ystod ei hoes, gan gynnwys:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Swydd: https://bibliotecavirtualmadrid.comunidad.madrid/bvmadrid_publicacion/es/catalogo_imagenes/grupo.do?path=1130729.
- ↑ Dyddiad geni: "Maria Francesca de Bragança, Infanta de Portugal". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "María Francisca de Asís de Braganza y Borbón". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Swydd: https://bibliotecavirtualmadrid.comunidad.madrid/bvmadrid_publicacion/es/catalogo_imagenes/grupo.do?path=1130729.