Mari Rhian Owen
| Mari Rhian Owen | |
|---|---|
| Ganwyd | Mari Rhian Owen Mehefin 1962 Llanfyllin |
| Llysenw/au | Mari Rhian Turner |
| Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
| Galwedigaeth | actores, llenor, dramodydd a chyfarwyddydd |
| Cysylltir gyda | Arad Goch |
| Dydd gŵyl | Aberystwyth |
| Priod | Jeremy Turner |
Actores, dramodydd, cyfarwyddydd a llenor o Aberystwyth yw Mari Rhian Owen (ganwyd Mehefin 1962)[1] sy'n gysylltiedig â chwmni theatr Arad Goch. Bu'n gweithio ym myd theatr ers dros 30 mlynedd fel actores ac awdures ac mae ei dramâu wedi cael eu perfformio trwy Gymru benbaladr a thu hwnt.[2] Mae’n arwain cyrsiau ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr israddedig a dysgwyr mewn ysgolion, ynghyd â chynnal cyrsiau hyfforddi penodol i athrawon. Mae’n diwtor cwrs TAR Drama Uwchradd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers canol y 2010au. Yn ogystal, bu’n gyfrifol am ddyfeisio a hwyluso gweithgareddau iaith trwy ddrama ers pymtheng mlynedd yng Ngheredigion a Phowys.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Lanfyllin, Sir Drefaldwyn, mae hi'n byw bellach yn Aberystwyth. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth[3] ac wedi blwyddyn o weithio gefn llwyfan gyda Cwmni Theatr Cymru, ymunodd â Theatr Crwban.
Mae hi'n briod â Jeremy Turner ers 1989 ac mae ganddynt 2 o blant. Urddwyd y ddau i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.[4]
Ymgeisiodd fel cynghorydd Cyngor Tref ward Rheidol yn 2017, ar ran Plaid Cymru.[5] Bu'n faer Aberystwyth rhwng 2019 a 2020.[6]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Fel dramodydd
[golygu | golygu cod](ar gyfer Arad Goch oni nodir yn wahanol)[7]
- Dygymod (1992)
- Hyn Oll yn ei Chalon (1994)
- Dros y Garreg / Over the Stone (1995)
- Nid Fi / Not Me (1996)
- Merched y Gerddi / Garden Girls (1997)
- Yn y Dechreuad / In the Beginning (1998)
- Hen Het / Old Hat (1999) ac actores
- The Good Brig Credo (1999)
- Y Siec (2002)
- Letus (2003)
Fel actores
[golygu | golygu cod]- Bwrw'r Sul
- Hen Het
- Yn ein Dwylo
- Cai
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Sneb yn Becso Dam - drama gerdd
- Gwerth y Byd [2] - Cyfres Pen Dafad
- Dramâu Cwmni Theatr Arad Goch - Merched y Gerddi / The Good Brig Credo
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mari Rhian TURNER personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-12-20.
- ↑ 2.0 2.1 (www.gwerin.com), Gwerin. "Mari Rhian Owen: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2025-12-20.
- ↑ (yn cy) PODLEDIAD Dyma erthygl - Bywyd mewn drama. Portread o Mari Rhian Owen gan Dana Edwards. Daw o rifyn Gaeaf 2021 Y Wawr. | Merched y Wawr, https://www.facebook.com/merchedywawr/videos/podlediaddyma-erthygl-bywyd-mewn-drama-portread-o-mari-rhian-owen-gan-dana-edwar/370826211081414/, adalwyd 2025-12-20
- ↑ "Aberdare Boys Grammar School: Former Pupil Jeremy Turner". www.abgs.org.uk. Cyrchwyd 2025-12-20.
- ↑ "Plaid Ceredigion Penfro - Ymgeisydd Cyngor Tref ward Rheidol - Mari Rhian Turner Yn wreiddiol o Lanfyllin ym Mhowys, mae Mari yn byw yn Aberystwyth ers dros 30 mlynedd. Yn aelod ac un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Arad Goch, mae hi'n actores, athrawes a dramodydd cyhoeddedig. Mae hi'n fam i ddau o blant ac yn mwynhau ei gwaith o hyfforddi athrawon Drama y dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rheidol Ward Town Council Candidate - Mari Rhian Turner Originally from Llanfyllin in Powys, Mari has lived in Aberystwyth for over 30 years. A founder member of Arad Goch Theatre Company, she is an actress, teacher and published playwright. She is mother of two, and enjoys her work training the Drama teachers of the future at Aberystwyth University. | Facebook". www.facebook.com. Cyrchwyd 2025-12-20.
- ↑ "Mayors of Aberystwyth | Cyngor Tref Aberystwyth" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-12-20.
- ↑ "Details of Mari Rhian Owen's plays and performances from the archive of the Theatre in Wales web site". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2025-12-20.