Margarita Aliger

Oddi ar Wicipedia
Margarita Aliger
Ganwyd10 Gorffennaf 1915, 7 Hydref 1915, 24 Medi 1915 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Odesa Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 1992 Edit this on Wikidata
DSK "Michurinets" Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Sefydliad Llenyddol Maxim Gorky Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ieithydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, barddoniaeth naratif Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
MudiadRealaeth Sosialaidd Edit this on Wikidata
PriodIgor Chernoutsan, Konstantin Makarov-Rakitin Edit this on Wikidata
PlantMasha Enzenberger Edit this on Wikidata
PerthnasauMyron Pavlovich Zeiliger Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Wladol Stalin, Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd y Rhyfel Gwladgarol, Ail Ddosbarth, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Medal Jiwbilî "40 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Gwobr "Cyril a Methodius" Edit this on Wikidata

Bardd Sofietaidd oedd Margarita Aliger ("Cymorth – Sain" ynganiad ; 24 Medi 1915 - 1 Awst 1992) a oedd hefyd yn ieithydd, yn gyfieithydd ac yn newyddiadurwr.

Fe'i ganed yn Odesa, 3ydd dinas fwyaf yr Wcráin heddiw, ond a oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia yr adeg honno. Bu farw yn "Michurinets", Oblast Moscfa ac fe'i claddwyd ym Mynwent Peredelkino, gyda'i merched. [1][2][3]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.

Teulu a choleg[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni i deulu o weithwyr-swyddfa Iddewig; yr enw teuluol go-iawn oedd Zeliger (Rwseg: Зейлигер).[4] Yn ei harddegau gweithiodd mewn ffatri gemegol. O 1934 i 1937 astudiodd yn Sefydliad Llenyddiaeth Maxim Gorky.[5]

Yr awdures[golygu | golygu cod]

Prif themâu ei barddoniaeth gynnar oedd arwriaeth y Sofietiaid yn ystod y diwydiannu ("Blwyddyn Geni", 1938; "Y Rheilffordd", 1939; "Cerrig a Glaswellt", 1940) ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd ("Cerddi", 1943). Ei cherdd enwocaf yw "Zoya" (1942), cerdd am Zoya Kosmodemyanskaya, merch ifanc a laddwyd gan y Natsïaid.[5] Roedd y gwaith hwn yn un o'r cerddi mwyaf poblogaidd yn ystod y cyfnod Sofietaidd. Rhwng 1940 a 1950, nodweddwyd barddoniaeth Aliger gan gymysgedd o benillion lled-swyddogol optimistaidd ("Mynyddoedd Leninskie", 1953), a cherddi lle ceisiodd Aliger ddadansoddi'r sefyllfa yn ei gwlad mewn ffordd realistig, cignoeth ("Eich Buddugoliaeth ", 1944 - 1945).

Yn 1956, mewn cyfarfod gyda o Khrushchev (1894 – 1971) a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Cyntaf Plaid Gomiwnyddol Rwsia, a'r intelligentsia, ceryddodd Khrushchev awduron y wlad am ymyrryd â'r system wleidyddol. Aliger oedd yr unig awdur i siarad yn ei erbyn yn y cyfarfod hwnnw. Ar ôl iddo ymddeol ymddiheurodd iddi am ei ymddygiad. Ysgrifennodd Aliger nifer o draethodau ac erthyglau am lenyddiaeth Rwsia a'i hargraffiadau ar deithio ("Ar farddoniaeth a beirdd", 1980, a "Dychwelyd o Tsile", 1966).

Priodi a marw[golygu | golygu cod]

Ei gŵr cyntaf oedd y cyfansoddwr Konstantin Makarov-Rakitin, a laddwyd ar flaen y gad, ger Yartsevo. Yna, yn 1941 bu farw eu mab bychan, a thorrodd ei chalon. Y flwyddyn ganlynol cafodd berthynas gyda'r awdur Alexander Fadeyev. Ganwyd o'r uniad hwn Maria, a briododd â Hans Magnus Enzensberger yn ddiweddarach; bu hi fyw dramor am ugain mlynedd, gan ladd ei hun yn fuan ar ôl dychweliad byr i Rwsia ym 1991. Yr ail a'r gŵr olaf oedd Algor Chernoutsan (1918-1990) a oedd yn aelod o'r 'Pwyllgor Canolog'. Goroesodd ei holl wŷr a'i phlant, gan farw'n fuan ar ôl ei merch Maria Enzensberger. Mae Margarita Aliger wedi'i chladdu ym Mheredelkino wrth ymyl ei merched.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Wladol Stalin, Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd y Rhyfel Gwladgarol, Ail Ddosbarth, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Medal Jiwbilî "40 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Gwobr "Cyril a Methodius" .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  2. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Margarita Aliger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margarita Aliger". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margarita Iosifovna Aliger".
  3. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  4. Vyacheslav Ogryzko, "Несчетный счет минувших дней Archifwyd 2011-08-07 yn y Peiriant Wayback.," Literaturnaya Rossiya, Mai 15, 2009.
  5. 5.0 5.1 Brown, Archie (1991). The Soviet Union: A Biographical Dictionary. NY: Macmillan. t. 10. ISBN 0-02-897071-3.