Margaret Tisdale

Oddi ar Wicipedia
Margaret Tisdale
GanwydMargaret Breeze Edit this on Wikidata
1951 Edit this on Wikidata
Y Trallwng Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd y Trallwng
  • Prifysgol Surrey Edit this on Wikidata
Galwedigaethfirolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Wellcome Research Laboratories Edit this on Wikidata
Adnabyddus amzanamivir Edit this on Wikidata

Firolegydd clinigol a aned yng Nghymru oedd Margaret Tisdale (née Breeze; 10 Medi 1950 – 29 Ebrill 2015). Roedd yn adnabyddus am ei hastudiaethau o wrthsafiad HIV a firws influenza i gyffuriau gwrthfiraol, ac am gydlynu datblygiad y cyffur gwrth-ffliw zanamivir.[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o'r Trallwng, cafodd Tisdale ei haddysg yn Ysgol Trefnanney ac Ysgol Gyfun y Trallwng, cyn mynychu Prifysgol Guildford.[2]

Treuliodd Tisdale 33 o flynyddoedd fel ymchwilydd yn Labordai Ymchwil Wellcome, GlaxoWellcome a GlaxoSmithKline, gan ddod yn bennaeth firoleg clinigol yno.[1][2] Roedd yn arbenigo mewn gwrthsafiad HIV i gyffuriau ac mewn optimeiddio therapi gwrthretrofirol.[1] Bu Tisdale yn arwain datblygiad y cyffur zanamivir i wrthsefyll y ffliw,[1] ac a drwyddedwyd gan Glaxo o Biota yn 1990. Cyhoeddodd waith ar gyffuriau gwrthfirol yn erbyn rhinofirws, sy'n achosi annwyd.[3]

Bu farw yn 64 oed yn Wrestlingworth, Swydd Bedford.[4]

Detholiad o'i chyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Gone in 2015: Commemorating 10 Outstanding Women in Science". Scientific American Blog Network. Cyrchwyd 2016-01-19.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Tributes paid to Montgomeryshire scientist Margaret Tisdale who has died, aged 64". Denbighshire Free Press. 2015-05-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2016-01-19.
  3. DJ Bauer; JWT Selway; JF Batchelor; M Tisdale; IC Caldwell; DAB Young (1981), "4′,6-Dichloroflavan (BW683C), a new anti-rhinovirus compound", Nature 292: pp. 369–70, doi:10.1038/292369a0, http://www.nature.com/nature/journal/v292/n5821/abs/292369a0.html
  4. Sarah Knapton (27 Ionawr 2016), "Antidepressants can raise the risk of suicide, biggest ever review finds", The Daily Telegraph, https://www.telegraph.co.uk/news/health/news/12126146/Antidepressants-can-raise-the-risk-of-suicide-biggest-ever-review-finds.html, adalwyd 31 January 2016