Margaret Mitchell
Jump to navigation
Jump to search
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Margaret Mitchell | |
---|---|
![]() Margaret Mitchell | |
Ganwyd | 8 Tachwedd 1900 Atlanta, Georgia, ![]() |
Bu farw | 16 Awst 1949 (48 oed) Atlanta, Georgia, UDA |
Galwedigaeth | Nofelydd |
Roedd Margaret Munnerlyn Mitchell (8 Tachwedd 1900 – 16 Awst 1949) yn awdures Americanaidd, a enillodd y Wobr Pulitzer ym 1937 am ei nofel Gone with the Wind. Y nofel hon yw un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed, gan werthu dros 30 miliwn o gopïau. Rhyddhawyd addasiad ffilm Americanaidd o'r nofel ym 1939, a dyma oedd y ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed yn hanes Hollywood a thorrodd pob record gyda deg o Wobrau'r Academi.
Bu farw o anafiadau a gafwyd wedi iddi gael ei tharo gan gar.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Miss Mitchell, 49, Dead of Injuries. The New York Times (17 Awst 1949). Adalwyd ar 16 Awst 2014.
|
