Margaret Mary Fairchild
| Margaret Mary Fairchild | |
|---|---|
| Ganwyd | Margaret Mary Fairchild 4 Ionawr 1911 Hellingly, Sussex |
| Bu farw | 28 Ebrill 1989 (78 oed) 23 Gloucester Crescent, Camden, Llundain |
| Man claddu | Mynwent St Pancras ac Islington |
| Alma mater | École Normale de Musique de Paris |
| Galwedigaeth | Pianydd Clasurol, lleian |
| Adnabyddus am | The Lady in the Van |
Menyw ddigartref o Brydain oedd Margaret Mary Fairchild (4 Ionawr 1911 – 28 Ebrill 1989), a adnabyddir hefyd fel Mary Teresa Sheppard, Miss Shepherd ac MT Sheppard, gafodd ei hanfawroli yn y stori, drama a'r ffilm The Lady in the Van gan Alan Bennett. Roedd Fairchild yn gyn-bianydd clasurol ac yn lleian.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Margaret Fairchild ym 1911 yn Hellingly, Sussex, yn ferch i Harriett (née Burgess; 1879–1963) a George Bryant Fairchild (1866–1944), syrfëwr ac arolygydd glanweithdra. Ei brawd oedd Leopold George Fairchild (1908–1994).[1]
Tua 1932, yn ôl ei brawd, astudiodd Margaret Fairchild yn yr École Normale de Musique de Paris o dan y meistr Alfred Cortot, a dywedir iddi chwarae mewn cyngerdd promenâd yn ddiweddarach.[2]
Yn ôl ei brawd, roedd Fairchild yn ffigwr awdurdodol bron i 6 troedfedd (1.8 m) o daldra, a ddaeth yn fwyfwy anwadal ei hymddygiad wrth aeddfedu, gan ddadlau'n gyson am grefydd gyda'i mam, tra'n byw gyda hi. Cafodd ei rhoi yn Ysbyty Banstead, ysbyty seiciatrig, gan ei brawd, ac yna dihangodd. Roedd i ddianc o amryw ysbytai meddwl eraill nes iddi aros ar goll am flwyddyn a diwrnod, a ddangosodd yn gyfreithiol ei bod hi'n gymwys i fyw heb oruchwyliaeth.[3]
Yn ddiweddarach, cafodd ddamwain pan darodd beiciwr modur y fan yr oedd hi'n ei gyrru, a fu farw wedi hynny. Credai Fairchild mai hi oedd ar fai am y ddamwain a gadawodd y lleoliad heb roi ei manylion, gan fyw mewn ofn cael ei harestio wedi hynny. Ar yr adeg hon, newidiodd ei henw i Sheppard i osgoi cael ei dal a dychwelodd i gyffiniau'r lleianod ar Gloucester Avenue lle gwnaeth ei haddunedau.

Ar ddiwedd y 1960au, dechreuodd Fairchild, gan alw ei hun yn 'Miss Mary Sheppard', barcio ei fan Bedford o flaen y tai yn Gloucester Crescent, Camden lle byddai'n cythruddo'r perchnogion ac yna pentyrru bagiau plastig llawn sbwriel o amgylch y cerbyd. Dros amser, symudodd ei fan felen wedi'i phaentio â llaw i lawr y ffordd nes cyrraedd cartref y dramodydd a'r awdur Alan Bennett ym 1971, a ddywedodd amdani, "She was there in full view of my window while I was working. She used to get pestered by people. I used to go out and tell [those] people to clear off. This distracted me from my work, and it gradually got to the point when it was harder for me to work than it should be, and the only way to break through the situation was to invite her into the drive, where no one else would bother her.”
Roedd wedi gobeithio mai trefniant dros-dros fyddai hynny, ond bu "Miss Sheppard" yno tan ei marwolaeth ym 1989.
The Lady in the Van
[golygu | golygu cod]
Cyfansoddodd Bennett The Lady in the Van yn seiliedig ar ei brofiadau gyda'r hen-ferch unigryw hon. Cyhoeddwyd stori Fairchild/Shepherd gyntaf ym 1989 fel traethawd yn y London Review of Books, cyn ei throi'n gyfrol [1990] a drama lwyfan ym 1999.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1911 England Census for Margaret Mary Fairchild in Sussex, Hellingly, Ancestry.com. Accessed 2 December 2022.↵(subscription required).
- ↑ Why a playwright let a homeless woman live in his driveway for 15 years – The New York Post 28 November 2015.
- ↑ Alan Bennett, The Lady in the Van: The Complete Edition Faber & Faber Ltd (2015), p. 89.