Margaret John

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Margaret John
Ganwyd 14 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata (84 oed)
Achos: canser yr afu Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/au British Academy of Film and Television Arts Edit this on Wikidata

Actores Gymreig oedd Margaret John (14 Rhagfyr 19262 Chwefror 2011). Pan yn blentyn, roedd hi eisiau bod y nyrs neu'n filfeddyg ond yn hytrach aeth i astudio yn London Academy of Music and Dramatic Art.[1] Mwynhaodd John yrfa a barhaodd dros 50 mlynedd, gan ymddangos mewn rhai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd Prydain, gan gynnwys Coronation Street, Dixon of Dock Green, Z-Cars, Doctor Who, Emmerdale, Last of the Summer Wine, Crossroads, Little Britain, a Gavin & Stacey.

Ymddangosodd ar y teledu hefyd mewn pennodau o The First Lady, The Troubleshooters, Softly, Softly, The Mike Yarwood Show, Doomwatch, Blake's 7, Secret Army, Lovejoy, My Family, High Hopes, The District Nurse, Casualty, a Doctors. Chwaraeodd hefyd ran Mrs Stone yn nrama Radio 4, Linda Smith's A Brief History of Timewasting.

Ym Medi 2009, ymddangosodd mewn ffilm fer graffig Cow, gan y cyfarwyddwr Peter Watkins Hughes, yn rhybuddio am y peryglon o decstio tra'n gyrru.[2]

Gwobrwywyd John gyda'r Wobr am Gamp Oes yn 18fed gwobrau BAFTA Cymru ar 17 Mai 2009, yng Nganolfan Mileniwm Cymru, mewn seremoni a westeiwyd gan Gethin Jones.[3]

Yn 2009 ymddangosodd John yn The Vagina Monologues. Cyn y cyhyrchiad hwn, ei pherfformiad diwethaf yn y theatr oedd Medea yn Theatr Young Vic yn Llundain yn ystod y 1980au. Perfformiodd hefyd yn y cynhyrchiad o Calendar Girls yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd o 27 Gorffennaf tan 7 Awst 2010 ac yn Venue Cymru, Llandudno o 9 Awst tan 14 Awst 2010, gan gydweithio gyda Ruth Madoc.[4]

Bu'r gŵr John yn feolinydd cyntaf gyda'r London Symphony Orchestra a perfformiodd gyda Frank Sinatra.[5]

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]