Marcus Aurelius Marius
Gwedd
| Marcus Aurelius Marius | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 g |
| Bu farw | 269 |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Alaidd |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Emperor of the Gallic Empire |
Marcus Aurelius Marius (bu farw 269) oedd ail ymerawdwr yr Ymerodraeth Alaidd, am ychydig fisoedd yn y flwyddyn 269.
Nid oes llawer o wybodaeth amdano. Daeth yn ymerawdwr wedi i Postumus gael ei lofruddio gan ei filwyr ei hun, efallai oherwydd iddo eu gwahardd rhag anrheithio dinas Mainz. Yn ôl rhai awduron, dim ond am ychydig ddyddiau y bu yn ymerawdwr, ond bathodd nifer sylweddol ddarnau arian, felly ymddengys iddo fod yn ymerawdwr am rai misoedd. Olynwyd ef gan Victorinus.