Marco Reus

Oddi ar Wicipedia
Marco Reus
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnMarco Reus
Dyddiad geni (1989-05-31) 31 Mai 1989 (34 oed)
Man geniDortmund, Yr Almaen
Taldra1.80 m
SafleBlaenwr
Y Clwb
Clwb presennolBorussia Dortmund
Rhif11
Gyrfa Ieuenctid
1994-1996Post SV Dortmund
1996-2006Borussia Dortmund
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006-2007Rot Weiss Ahlen II6(3)
2007-2009Rot Weiss Ahlen44(5)
2009-2012Borussia Mönchengladbach97(36)
2012-Borussia Dortmund211(96)
Tîm Cenedlaethol
2009Yr Almaen dan 212(0)
2011-Yr Almaen44(13)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 24 Ebrill 2021.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 13 Hydref 2019

Pêl droediwr o'r Almaen yw Marco Reus (ganed 31 Mai 1989), sy'n chwarae dros Borussia Dortmund a'r Almaen. Mae e wedi bod yn gapten i Dortmund ers 2018.

Dechreuodd Reus ei yrfa yn Dortmund gyda Post SV Dortmund wedyn timau ieuenctid Borussia Dortmund. Ar ôl gadael i Rot Weiss Ahlen, aeth Reus i ymuno â Borussia Mönchengladbach yn Bundesliga yr Almaen yn 2009. Yn gyfnod llwyddiannus yn Gladbach, enillodd Reus Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bundesliga yn y tymor 2011-12[1]. Ym Mai 2012, wnaeth Reus ail ymuno â'r tîm roedd ef yn cefnogi fel plentyn, Borussia Dortmund[2]. Yn ystod ei yrfa broffesiynol gyda Dortmund, mae Reus wedi dod yn Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bundesliga dwywaith yn rhagor (yn 2013-14 a 2018-19), ennill y DFB-Pokal yn 2017 a 2021, ennill y DFL-Supercup tair gwaith a chyrraedd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2013.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. UEFA.com (2012-07-04). "Reus named Bundesliga player of 2011/12". UEFA.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-28.
  2. KGaA, Borussia Dortmund GmbH & Co. "Marco Reus". www.bvb.de (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-28.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.