Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Oddi ar Wicipedia

Mae "CBE", "DBE", "MBE" ac "OBE" i gyd yn ail-gyfeirio yma.

Seren Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Urdd marchogion Brydeinig ydy Urdd Dra Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (Saesneg: The Most Excellent Order of the British Empire) a sefydlwyd ar 4 Mehefin 1917 gan Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig. Mae'r urdd yn cynnwys pum dosbarth o raniadau dinesig a milwrol; yn nhrefn y pwysicaf gyntaf:

  • Marchog (neu Fonesig) y Groes Fawr (Saesneg: Knight (or Dame) of the Grand Cross (GBE)
  • Marchog (neu Fonesig) Cadlywydd (Saesneg: Knight (or Dame) Commander (KBE neu DBE)
  • Cadlywydd (Saesneg: Commander) (CBE)
  • Swyddog (Saesneg: Officer) (OBE)
  • Aelod (Saesneg: Member) (MBE).

Dim ond y ddau ddosbarth uchaf sy'n galluogi i'r derbynnydd ddod yn aelod o'r urdd marchogion, gan roi'r hawl iddynt ddefnyddio'r teitl 'Syr' (gŵr) neu 'Bonesig' (benyw) o flaen eu henwau, cyn belled â'u bod yn enedigol o wlad y mae Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig yn bennaeth y wladwriaeth arni. Os nad ydynt, gallent ddefnyddio enw'r urdd yn eu henwau ond nid y teitlau.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yw derbynwyr o'r fedal honno yn aelodau o'r urdd, ond mae perthynas gyda'r urdd. Ni wobrwyir y fedal hon bellach yn y Deyrnas Unedig na'i gwledydd dibynadwy, ond mae'r Ynysoedd Cook a rhai Gwledydd y Gymanwlad yn dal i'w gwobrwyo.

Arwyddair yr urdd yw I Dduw a'r Ymerodraeth. Hon yw'r urdd leiaf pwysig Brydeinig, ac mae ganddi fwy o aelodau nac unrhyw urdd arall.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig yr urdd i lenwi gwagle yng gyfundrefn anrhydeddau'r Deyrnas Unedig: The Most Honourable Order of the Bath a wobrwywyd i swyddogion uwch filwrol yn unig a gweinyddion dinasol; The Most Distinguished Order of St Michael and St George a anrhydeddodd llysgenaid; a Threfn Frenhinol Fictoraidd a anrhydeddodd pobl a oedd wedi gweinyddu'r Teulu Brenhinol yn bersonol. Bwriad pennaf y brenin oedd anrhydeddu'r miloedd o bobl a weinyddodd o fewn sawl ffurf answyddogol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un dosbarth oedd gan yr urdd yn wreiddiol, ond yn 1918, yn fuan wedi ei sefydliad, rhannwyd hi'n swyddogol i raniadau Milwrol a Dinesig.

Mae trefn y Marchogion yn fwy gweriniaethol na threfnau anghynhwysol Bath neu San Michael a San Siôr, ac yn ei dyddiau cynnar, ni ddaliwyd hi mewn cyfrifiaeth uchel. Newidiodd hyn dros y blynyddoedd.

Cyfansoddiad[golygu | golygu cod]

Pen-arglwydd yr urdd yw brenin (neu frenhines) y Deyrnas Unedig, sy'n rheoli pob aelod arall yr urdd (yn arferol, ar gyngor y llywodraeth).

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwisgoedd ac offer[golygu | golygu cod]

Bathodyn Aelodau Trefn yr Ymerodraeth Brydeinig, blaen a chefn
Rhuban Dosbarth Dinesig yr urdd
Rhuban Dosbarth Milwrol yr urdd
Gwisgai swyddogion benywaidd yr urdd eu symbolau ar fwa, fel dengys yn y llun hwn

Mae aelodau'r urdd yn gwisgo gwisgoedd llafurfawr ar ddigwyddiadau arbennig (megis gwasanaethau quadrennial a choroni), sy'n newid o ran dosbarth (gwnaethpwyd newidiadau mawr i ddyluniad y gwisgoedd yn 1937)    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Capel[golygu | golygu cod]

Capel yr urdd yw crypt dwyreiniol Prifeglwys San Paul, ond deilir y gwasanaethau mawr ym mhrif gorff y brifeglwys. (Mae'r brifeglwys hefyd yn gartref i gapel Trefn San Michael a St Siôr.) Deilir gwasanaethau crefyddol yr urdd pob pedair blynedd, yn y gwasanaethau hyn gweinyddir Marchogion a Boneddigesau newydd, neilltuwyd y capel yn 1960.

Blaenoriaeth a Breintiau[golygu | golygu cod]

Gall Marchog neu Fonesig ddangos cylch yr urdd ar eu arfbais.

Gwobrwyir aelodau'r urdd safle yn y drefn blaenoriaeth. Mae gwragedd dynion yr urdd hefyd yn ymddangos yn y flaenoriaeth, yn ogystal â meibion, merched a merched-yng-nghyfraith Marchog y Groes Fawr a Marchog Cadlywydd; ni ddengys perthnasau merched yr urdd unrhyw flaenoriaeth arbennig. Gall perthnasau ennill blaenoriaeth, fel rheol gyffredin, gan eu tadau a'u gwyr, ond nid gan eu mamau a'u gwragedd.

Diddymiadau[golygu | golygu cod]

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Beirniadodd John Lennon naws milwrol yr urdd yn hallt gan ddweud:

Saesneg: "Lots of people who complained about us receiving the MBE received theirs for heroism in the war - for killing people. We received ours for entertaining other people. I'd say we deserve ours more."

Mae nifer o bobl wedi cael cynnig ond wedi gwrthod anrhydeddau'r Frenhines dros y blynyddoedd. Mae'n wybyddus fod rhai Cymry wedi gwrthod, yn cynnwys Carwyn James, Hywel Gwynfryn, Beti George[9], Grace Williams, T. E. Lawrence, Augustus John, E. Tegla Davies, James Griffiths a Roald Dahl.[10]

Derbyniodd yr actor Michael Sheen OBE yn 2009 ond fe'i ddychwelodd yn 2017.[11]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. , 24 Mehefin 1921.
  2. The London Gazette, 20 Rhagfyr 1949.
  3. The London Gazette Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback., 10 Awst 1965. Retrieved 28 Chwefror 2007.
  4. The London Gazette Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback., 18 Gorffennaf 1975. Retrieved 28 Chwefror 2007.
  5. The London Gazette Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback., 11 Ebrill 1980. Retrieved 28 Chwefror 2007.
  6. The London Gazette Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback., 6 Mehefin 1981.
  7. "MBE conman is stripped of honour", BBC News
  8. "'Prince' Naseem stripped of MBE after time in jail for car crash", The Guardian
  9. Beti George: 'Dyw byw eich hun yn ystod pandemig ddim yn sbort' , BBC Cymru Fyw, 21 Ionawr 2021.
  10. Anrhydeddau'r Frenhines: Diolch, ond dim diolch , BBC Cymru Fyw, 30 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd ar 31 Rhagfyr 2020.
  11. Michael Sheen reveals he gave back OBE as he didn't want to be branded a 'hypocrite' , WalesOnline, 29 Rhagfyr 2020.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]