Mao Dun

Oddi ar Wicipedia
Mao Dun
Ganwyd4 Gorffennaf 1896 Edit this on Wikidata
Tongxiang Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1981 Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Peking Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, ysgrifennwr, gwleidydd, critig, hanesydd llenyddiaeth Edit this on Wikidata
SwyddMinistry of Culture of the People's Republic of China, member of the National Committee of the Chinese People's Political Consultative Conference Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Tsieina Edit this on Wikidata
TadShen Yongxi Edit this on Wikidata
PartnerQin Dejun Edit this on Wikidata

Llenor a beirniad Tsieineaidd oedd Mao Dun (ganwyd Shen Dehong; 4 Gorffennaf 189627 Mawrth 1981).[1]

Ganwyd Shen Dehong yn Tongxiang, Zhejiang. Cafodd swydd yn darllen proflenni gyda'r Wasg Fasnachol yn Shanghai, a fe'i dyrchafwyd yn olygydd a chyfieithydd. Ymunodd â sawl awdur ifanc arall i olygu'r cylchgrawn straeon byrion Xiaoshuo yuebao ac i sefydlu'r Gymdeithas Ymchwil Llenyddol ym 1923. Ymunodd Shen â Phlaid Gomiwnyddol Tsieina ym 1926. Yn sgil yr hollt rhwng y Blaid Gomiwnyddol a'r Kuomintang, ceisiodd Shen ymddieithrio oddi wrth y ffrae wleidyddol.

Mabwysiadodd Shen y ffugenw Mao Dun, ymadrodd Tsieineeg sydd yn golygu "croesddywediad". Ysgrifennodd tair nofelig ym 1928, a chawsant eu cyhoeddi yn y gyfrol Shi (1930). Yn y 1930au a'r 1940au fe gyhoeddodd chwe nofel, gan gynnwys ei gampwaith Ziye (1933), ac 16 casgliad o straeon byrion a rhyddiaith. Ystyrir ei waith ymhlith ffuglen realaidd wychaf llenyddiaeth Tsieineeg fodern.

Mao Dun oedd gweinidog diwylliant cyntaf y llywodraeth gomiwnyddol yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, a sefydlwyd ym 1949. Rhoddai'r gorau i ysgrifennu ffuglen, er iddo barhau â'i waith ar bwyllgorau llenyddol. Cafodd ei ddiswyddo o'r llywodraeth ym 1964. Fe'i etholwyd yn gadeirydd Cymdeithas Llenorion Tsieina ym 1978. Wedi ei farwolaeth, sefydlwyd gwobr lenyddol yn ei enw a waddolai ganddo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Mao Dun. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Mai 2018.