Manuel Rojas

Oddi ar Wicipedia
Manuel Rojas
Ganwyd8 Ionawr 1896 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1973 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsile Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, awdur storiau byrion, bardd, ysgrifennwr, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Tsili Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Atenea, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, awdur straeon byrion, a bardd Tsileaidd yn yr iaith Sbaeneg a anwyd yn yr Ariannin oedd Manuel Rojas (8 Ionawr 189611 Mawrth 1973). Mae'n nodedig am ei ffuglen sy'n seiliedig ar brofiadau a chymeriadau'r isddosbarthiadau o'i ieuenctid.

Ganwyd yn Buenos Aires, yr Ariannin, ac yn ei ieuenctid fe grwydrodd ar hyd y cyffindir rhwng yr Ariannin a Tsile tra'n llafurio am arian. Gweithiodd fel cysodwr leinoteip i bapurau newydd yn Santiago de Chile ac yn Llyfrgell Genedlaethol Tsile. Yn 1931, cafodd swydd yn bennaeth ar Wasg Prifysgol Tsile.[1]

Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol fel bardd, gyda'r gyfrol Poeticus (1921). Trodd ei sylw yn fuan at y stori fer, a gwelir dylanwad yr awduron Americanaidd Ernest Hemingway a William Faulkner yn ei gasgliadau Hombres del sur (1926) ac El delincuente (1929). Ymhlith ei gasgliadau diweddarach o straeon mae El vaso de leche y sus mejores cuentos (1959) ac El hombre de la rosa (1963). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Lanchas en la bahía, yn 1932, ac ystyrir y nofel hunangofiannol Hijo de ladrón (1951) yn gampwaith Rojas. Ymhlith ei nofelau eraill mae Mejor que el vino (1958), Punta de rieles (1960), a Sombras contra el muro (1964).

Bu farw yn Santiago yn 77 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Manuel Rojas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.