Manuel A. Odría

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Manuel A. Odría
Manuel Odría 1948.png
Ganwyd Manuel Arturo Odria Amoretti Edit this on Wikidata
26 Tachwedd 1897 Edit this on Wikidata
Tarma Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Chwefror 1974 Edit this on Wikidata (76 oed)
Lima Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Periw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, swyddog Edit this on Wikidata
Swydd Minister of the Interior, President of Peru, President of Peru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Odriíst National Union Edit this on Wikidata
Priod María Delgado de Odría Edit this on Wikidata
Gwobr/au Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Croes Urdd Siarl III Edit this on Wikidata

Cadfridog a gwleidydd Periwaidd oedd Manuel Arturo Odría Amoretti (26 Tachwedd 189718 Chwefror 1974) a fu'n Arlywydd Periw o 1948 i 1956.

Ganed yn Tarma yng nghanolbarth Periw i deulu milwrol. Graddiodd o'r ysgol filwrol ym 1919 ac o'r Coleg Rhyfel ym 1930. Fe'i dyrchafwyd yn frigadydd ym 1946, yn bennaeth staff y fyddin, ac ym 1947 yn weinidog cartref a phennaeth ar yr heddlu dan yr Arlywydd José Bustamente.[1]

Yn Hydref 1948 arweiniodd Odría jwnta filwrol i ddisodli Bustamente, a datganwyd Odría yn arlywydd dros dro. Aeth ati i ddiddymu'r ddeddfwrfa a sefydlu llywodraeth filwrol, ac ymbiliodd ar Unol Daleithiau America am fuddsoddiad a chymorth technegol i geisio sefydlogi economi Periw. Ymddiswyddodd ar 1 Mehefin 1950 i ymgyrchu am yr arlywyddiaeth, mewn etholiad heb yr un ymgeisydd arall yn ei wrthwynebu, a chafodd ei urddo'n arlywydd yn swyddogol ar 28 Gorffennaf 1950.[1]

Defnyddiodd Odría dactegau awdurdodaidd i ostegu ei wrthwynebwyr gwleidyddol. Cryfhaodd yr economi i gychwyn o ganlyniad i'w bolisïau laissez-faire, ond erbyn diwedd ei arlywyddiaeth bu'n wynebu diffyg masnachol a chwyddiant. O ganlyniad i streiciau a phrotestiadau yn erbyn ei lywodraeth, ildiodd Odría yr arlywyddiaeth a chynhaliwyd etholiad rhydd ym 1956. Aeth Odría yn alltud yn wirfoddol, a threuliodd rhywfaint o'i amser yn yr Unol Daleithiau. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth eto ym 1962 ac ym 1963. Bu farw yn Lima yn 76 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Manuel A. Odría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2020.