Neidio i'r cynnwys

Manouba

Oddi ar Wicipedia
Manouba
Mathmunicipality of Tunisia, imada Edit this on Wikidata
Poblogaeth58,792 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirdelegation of La Manouba Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.8°N 10.1°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Manouba neu La Manouba (Arabeg منوبة) yn dref yng ngogledd-orllewin Tiwnis (prifddinas Tiwnisia) a phrif dref y dalaith lywodraethol (gouvernorat) o'r un enw.

Creuwyd bwrdeistref La Manouba ar 23 Mehefin 1942. Heddiw mae'n un o fwrdeistrefi hynaf Tiwnis Fwyaf. Mae Manouba yn ardal dda ei fyd, gydag ysgolion a chyfleusterau eraill o safon uchel.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Yn y dwyrain mae Manouba yn ffinio â bwrdeistref Den Den, yn y gogledd â bwrdeistref Douar Hicher, yn y gorllewin â bwrdeistref Oued Ellil ac yn y de â dinas (municipalité) Tiwnis a Chamlas Medjerda-Cap Bon.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Ganwyd y gantores Latifa Arfaoui ym Manouba yn 1961 a chafodd ei haddysg gynradd yn ysgol Sidi Omar.

Palais la rose, Manouba

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]