Manon Lloyd
Gwedd
Lloyd in 2017 | |||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Manon Haf Lloyd | ||||||||||||
Ganwyd | Caerfyrddin, Cymru | 5 Tachwedd 1996||||||||||||
Gwybodaeth tîm | |||||||||||||
Tim presennol | Team Breeze (ffordd) British Cycling (trac) | ||||||||||||
Disgyblaeth | Seiclo trac | ||||||||||||
Record medalau
|
Mae Manon Haf Lloyd (ganwyd 5 Tachwedd 1996) yn feiciwr trac o Gymru sy'n cystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol. Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop yn 2016, fel rhan o'r tîm pursuit.[1] Daeth Lloyd yn drydydd yn y gystadleuaeth unigol yn Matrix Fitness Grand Prix 2017.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Y hynaf o ddau o blant, magwyd Lloyd ar fferm ddefaid ei theulu yng Nghrwbin, ger Cydweli.[3] Mynychodd Ysgol y Fro gerllaw yn Llangyndeyrn.[4] Bu'n mwynhau nofio a rhedeg pan oedd yn iau, a phenderfynodd droi ei llaw at driathlon, gan ymuno â'r clwb lleol, Towy Riders, a chychwyn seiclo pan oedd tua 14 oed ar y trac seiclo ym Mharc Caerfyrddin.[3]
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]- 2016
- Cwpan y Byd Seiclo Trac, UCI
- 1af Pursuit tîm, Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop Dan 23
- 3rd Pursuit tîm, Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop
- 2017
- Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop Dan 23
- 1af Madison (gydag Ellie Dickinson)
- 3ydd Ras bwyntiau
- 1af Pursuit tîm, Pencampwriaethau Seiclo Trac Prydain
- Track Cycling Challenge
- 1af Madison (gyda Emily Kay)
- 2il Ras scratch
- 2il Pencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop, Pursuit tîm
- 3ydd Pursuit tîm, Rownd 1 (Pruszków), Cwpan y Byd Seiclo Trac, UCI (gyda Neah Evans, Emily Kay ac Emily Nelson)[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "European Track Championships 2016 Saint-Quentin-en-Yvelines" (PDF). europeantrack2016.veloresults.com. October 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-10-21. Cyrchwyd 21 Hydref 2016.
- ↑ "http://www.tourseries.co.uk/news/15530.php#". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-06. Cyrchwyd 2018-04-26. External link in
|title=
(help) - ↑ 3.0 3.1 Chris Kelsey (5 Ebrill 2018). "The lanes around her parents' farm were the perfect training ground for Commonwealth Games cyclist Manon Lloyd". Wales Online. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.
- ↑ "Taflen Newyddion Cymunedol Llandyfaelog Community Newsletter". llandyfaelog.org.uk. Cyngor Cymuned Llandyfaelog. 2017. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.[dolen farw]
- ↑ "Australia's Scotson and Meyer take Madison title, Wild claims women's omnium in Pruszkow". cyclingnews.com. 4 Tachwedd 2017.