Neidio i'r cynnwys

Mancala

Oddi ar Wicipedia
Mancala
Mathgêm bwrdd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teulu o gemau bwrdd traddodiadol yw mancala a chwaraeir yn bennaf yn Affrica, ond hefyd mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd. Ym mhob un o'r gemau hyn mae dau chwaraewr yn cymryd eu tro i symud hadau neu gerrig neu ryw docynnau bach eraill o amgylch cyfres o dyllau mewn bwrdd neu byllau bach yn y ddaear. Mae'n gêm o sgil a strategaeth lle'r nod yw cipio hadau trwy lwyddo i gael niferoedd penodol ohonynt mewn tyllau penodol. Bydd y chwaraewr sydd â'r rhan fwyaf o hadau ar y diwedd yn ennill y gêm.

Enwau ac amrywiadau

[golygu | golygu cod]

Mae'r gair "mancala" (Arabeg: مِنْقَلَة; minqalah) yn enw offer sy'n deillio o wreiddyn Arabeg naqala (ن-ق-ل) sy'n golygu "symud".[1]

Mae mwy nag 800 o enwau ar gyfer gemau mancala traddodiadol. Adwaenir rhai mathau dan fwy nag un enw; defnyddir rhai enwau ar gyfer mwy nag un gêm. Dyma ychydig yn unig:

Mae'n debyg mai'r amrywiaeth fwyaf cyffredin yn nheulu gemau mancala yw Oware, sy'n boblogaidd yng Ngorllewin Affrica a'r Caribî.[3] Bydd hyn yn gwasanaethu fel cynrychiolydd o'r teulu mancala cyfan.

Mae'r gêm yn cael ei chwarae gyda bwrdd oware a 48 o hadau. Mae gan y bwrdd ddwy res syth o chwe phwll, a elwir yn "dai", a phwll storio mwy ar bob pen. Mae pob chwaraewr yn rheoli'r chwe thŷ ar ei ochr o'r bwrdd, a'r storfa i'r dde iddo. Mae'r gêm yn dechrau gyda phedwar hedyn ym mhob un o'r deuddeg tŷ.

Store (0) 4 4 4 4 4 4 Store (0)
4 4 4 4 4 4

Mae chwaraewyr yn cymryd eu tro i symud yr hadau. Ar dro, mae chwaraewr yn dewis un o'r chwe thŷ sydd o dan ei reolaeth. Mae'r chwaraewr yn tynnu'r holl hadau o'r tŷ hwnnw, ac yn eu dosbarthu, gan ollwng un ym mhob tŷ yn groes i'r cloc o'r tŷ hwn, mewn proses o'r enw "hau". Mae'r tŷ cychwynnol bob amser yn cael ei adael yn wag; os yw'n cynnwys 12 o hadau (neu fwy), mae'n cael ei hepgor pan fydd yr hau yn dychwelyd i'w fan cychwyn, a rhoddir y deuddegfed hedyn yn y tŷ nesaf.

Dyma ddiagram sy'n dangos sefyllfa mewn gêm. Mae un chwaraewr (Chwaraewr 1, islaw) wedi ennill 9 o hadau sy'n ymddangos yn ei storfa ar y dde, y llall (Chwaraewr 2, uwchben) wedi ennill 12 ohonynt, sy'n ymddangos yn ei storfa ar y chwith.

Store (12) 2 2 1 2 3 1 Store (9)
3 1 4 0 6 2

Chwaraewr 1 sydd i symud. Mae'n dewis y 5ed tŷ, sy'n cynnwys 6 hedyn:

Store (12) 2 2 1 2 3 1 Store (9)
3 1 4 0 6h 2

Mae Chwaraewr 1 yn hau'r chwe hedyn yn y chwe tŷ sy'n dilyn, gan symud i gyfeiriad yn groes i'r cloc. Y canlyniad yw bod tŷ 5 bellach yn wag, a bod gan bob un o'r tai canlynol un hedyn ychwanegol.

Store (12) 2 3 2 3 4 2 Store (9)
3 1 4 0 0 3

Nawr y gall Chwaraewr 1 gipio rhai hadau gan fod ei hedyn olaf wedi creu cyfanswm o 3 yn y tŷ olaf (tŷ 11). Ar ben hynny, mae'r tŷ blaenorol (tŷ 10) yn cynnwys dau hedyn, ac mae'r un cyn hynny (tŷ 9) yn cynnwys tri hedyn. Dyma'r rheol: os yw'r tŷ olaf ar ochr arall y bwrdd ac mae'n cynnwys dau neu dri o hadau gall y chwaraewr eu cipio; ar ben hynny, os yw dau neu dri o hadau yn ymddangos yn unrhyw un o'r tai yn uniongyrchol o'i flaen, fe all eu cipio hwythau hefyd.

Store (12) 2 3h 2h 3h 4 2 Store (9)
3 1 4 0 0 3

Felly mae'n cipio cynnwys y tri thŷ (wyth hedyn i gyd) ac yn eu hychwanegu at ei storfa.

Store (12) 2 0 0 0 4 2 Store (17)
3 1 4 0 0 3

Nawr mae Chwaraewr 2 yn cymryd ei dro.

Mae yna rai rheolau ychwanegol ynghylch pethau fel gadael digon o hadau i'r gwrthwynebwr er mwyn iddo allu parhau i chwarae.

Mae'r gêm yn cael ei hennill pan fydd un chwaraewr wedi dal 25 o hadau neu fwy. Mae'n cael ei dynnu os yw pob chwaraewr wedi dal 24 o hadau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "English Words from Arabic", zompist.com; adalwyd 16 Mehefin 2025
  2. "History", The Oware Society; adalwyd 16 Mehefin 2025
  3. "Oware Rules", The Oware Society; adalwyd 16 Mehefin 2025

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Murray, H. J. R., A History of Board-Games other than Chess (Rhydychen: Clarendon Press, 1952)
  • Russ, Larry, The Complete Mancala Games Book (Efrog Newydd: Marlowe, 2000)
  • Voogt, A.J. de, Mancala Board Games (Llundain: British Museum Press, 1997)