Manas

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:46, 28 Ionawr 2020 gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Delwedd:Manas Monument in Bishkek.jpg
Cerflun Manas yn Bishkek.

Arwrgerdd genedlaethol y Cirgisiaid yw Manas sydd yn traddodi hanes y batyr eponymaidd wrth iddo uno'r llwythau Cirgisaidd yn erbyn eu gelynion yn y frwydr am annibyniaeth. Fe'i cenir ar lafar yn gyhoeddus gan feirdd o'r enw masnachi hyd heddiw, wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros sawl canrif, a chaiff ei hystyried yn gronfa o hanes, traddodiadau a diwylliant, a meddylfryd gwleidyddol a chymdeithasol y Cirgisiaid.

Rhennir cylch Manas yn dair rhan: Manas ei hun ydy arwr y rhan gyntaf; ei fab Semetey sydd yn brif gymeriad yr ail ran; ac am Seitek, mab Semetey, cenir y drydedd ran. Credir bod y cyfnod o'r 9g i'r 11g yn gefndir i'r cylch, ac yn ôl traddodiad y Cirgisiaid dyma oedd eu ethnogenesis. Cafodd pen-blwydd honedig Manas yn filflwydd oed ei dathlu ar gais llywodraeth Cirgistan yn 1995, mewn ymdrech i hyrwyddo undod ac hunaniaeth ddiwylliannol y genedl. Gellir olrhain traddodiad llafar y gerdd ei hun i'r 18g, ond mae nodweddion ynddi yn awgrymu ei bod ychydig yn hyn na hynny. Dylanwadodd yn gryf ar lenyddiaeth Girgiseg ysgrifenedig gynnar, ac mae llawysgrifau yn seiliedig arni yn goroesi o ddechrau'r 20g.[1]

Cylch Manas ydy'r arwrgerdd hiraf yn y byd, a chanddi 500,553 o linellau yn y fersiwn a recordiwyd gan y masnachi Sayakbay Karalayev. Fel esiampl o farddoniaeth lafar, mae rhagor na 60 o wahanol fersiynau o Manas. Cedwir recordiadau ac argraffiadau o'r gerdd yn Academi Gwyddorau Genedlaethol Cirgistan.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 181–2.