Maldwyn John
| Maldwyn John | |
|---|---|
| Ganwyd | Maldwyn John Williams 1965 Bodffordd, Ynys Môn |
| Alma mater | Ysgol Gyfun Llangefni a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
| Galwedigaeth | actor |
| Cysylltir gyda | John Albert yn Pengelli |
| Perthnasau | Charles Williams (ewyrth) |
Actor Cymraeg o Fodffordd, Ynys Môn ydi Maldwyn John (ganwyd 1965) enw bedydd Maldwyn John Williams, er ei fod wedi byw am ran helaeth o'i fywyd yn Bethel ger Caernarfon. Bu'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau Cymru gyda Theatr Bara Caws, ac wedyn ar S4C mewn sawl cyfres fel Rownd a Rownd, Jabas, Amdani, 9 tan 9, ac yn fwyaf cofiadwy fel y cymeriad "John Albert" yn y gyfres Pengelli.[1] Cafodd ei enwebu am wobr yr actor gorau gan BAFTA Cymru ym 1997, am ei ran yn y gyfres.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd Maldwyn ei fagu ym Modffordd, Ynys Môn. Derbyniodd wersi actio yn Theatr Fach Llangefni, cyn mynychu Ysgol Gyfun Llangefni.[1] Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[2]
Mae'n briod gyda Manon. Mae ei dad yn frawd i'r actor Charles Williams.[2]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Zwmba! (1986)
- Rhych Wlyb (2003)
- Lysh (2004)
- Camp a Rhemp (2006)
- Actus Reus (2006)
- Caffi Basra (2007)
- Un Fach Flewog (2011)
- Jac yn y Bocs (2014)
- No Wê (2015)
- Dulcie Donum
Cwmnïau eraill
- Jim Cro Crystyn (1986) Hwyl a Fflag
- Codi Stêm (1987) Hwyl a Fflag
- Jeli Bebis (1996) Cwmni Theatr Gwynedd
- Bonansa! (1997) Dalier Sylw
- Romeo a Juliet (2003) Theatr Genedlaethol Cymru
- Hen Rebel (2005) Theatr Genedlaethol Cymru
- The Grapes of Wrath (2006) Clwyd Theatr Cymru
- Bitch! (2006) Frân Wen
- Y Gobaith a'r Angor (2008) cyfarwyddydd
Ffilm, Teledu a Radio
[golygu | golygu cod]- Ac Eto Nid Myfi (1987)
- 'Steddfod! 'Steddfod! (1989)
- Jabas (1989)
- Dyddiadur Dyn Dwad (1989)
- C'mon Midffîld! (1990)
- Blodeuwedd (1990)
- Shakespeare - Y Dramâu wedi'u Hanimeiddio (1994)
- Dial (1994)
- Pengelli (1994-2001)
- Tylluan Wen (1996)
- Cerddwn Ymlaen
- Iechyd Da
- Y Stafell Ddirgel (2001)
- Amdani (2001-2002)
- 9 tan 9 (2002-2004)
- Talcen Caled (2005)
- Mae Sera'n Wag (2006) Radio
- Rownd a Rownd (2007 - presennol)
- Lili Wen Fach (2008) Radio
- Cerflun (2013) Radio
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Maldwyn John". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-10-14.
- 1 2 "Ydagrau o dan y wen... cyfuniad o'r dwys a'r digri; Annes Glynn yn sgwrsio a Maldwyn John sy'n actio Llew yn y gyfres 9 tan. - Free Online Library". www.thefreelibrary.com. Cyrchwyd 2025-10-14.
- ↑ "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-14.