Makoko

Oddi ar Wicipedia
Makoko
Anheddiad anffurfiol
Makoko is located in Nigeria
<div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Operand ar gyfer * ar goll.%; left: -15.4%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;">
Makoko
Cyfesurynnau: Script error: The function "coordinsert" does not exist.
GwladNigeria
TalaithTalaith Lagos
DinasLagos
Ardaloedd Llywodraeth Leol NigeriaTir Mawr Lagos
Settled19eg gabriff
Poblogaeth (2012)
 • Cyfanswm85,840

Ardal slym ar draws Trydedd Bont y Tir Mawr ar arfordir tir mawr Lagos yw Makoko. Mae traean o'r gymuned wedi'i hadeiladu ar stiltiau ar hyd y lagŵn tra bod y gweddill ar y tir. Pobl Egun yn bennaf sy'n byw ar lannau'r gymuned. Ymfudasant yno o Badagary a Gweriniaeth Benin a physgota yw eu prif waith. Yng Ngorffennaf 2012, gorchmynnodd llywodraeth Lagos i rai o'r stiltiau y tu hwnt i'r llinellau pŵer gael eu tynnu heb rybudd priodol. Arweiniodd hyn at ddinistrio nifer o stiltiau ar lannau Iwaya a Makoko a chollodd nifer o deuluoedd eu cartrefi.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Makoko: Merch a'i chwaer mewn canŵ
Golygfa gyffredin ym Makoko yw bechgyn yn rhwyfo canŵ.

Wedi'i sefydlu yn y 19eg ganrif, mae'r rhan fwyaf o Makoko yn sefyll ar strwythurau a adeiladwyd ar stiltiau uwchben Lagŵn Lagos .[2][3] Mae cymuned Makoko yn agos i Iwaya ar y lan ac i Oko Baba.[4] Ym mis Gorffennaf 2012, gorchmynnodd llywodraeth Lagos o dan Babatunde Fashola i'r stiltiau ar lan Iwaya a Makoko gael eu dymchwel a thynnwyd degau o stiltiau o fewn 72 awr o rybudd i'r preswylwyr. Collodd bron i 3,000 o bobl eu cartrefi wedi hyn.[1][5][6][7] Ddau fis ar ôl y dymchwel rhannol, datblygodd cwmni tai cysylltiedig â Serac o'r enw Urban Spaces Innovation gynllun adfywio i Makoko a fyddai'n golygu dod â'r gymuned, academyddion, sefydliadau nid-er-elw ac ymgynghorwyr rhyngwladol at ei gilydd i'w wireddu. Cyflwynwyd y cynllun i Weinyddiaeth Cynllunio Trefol a Chorfforol Lagos ym mis Ionawr 2014.

Cyfeirir at Makoko fel "Fenis Affrica" weithiau.[8] Ystyrir bod ganddi boblogaeth o 85,840, ond ni chyfrifwyd yr ardal yn swyddogol fel rhan o gyfrifiad 2007 ac felly amcangyfrifwyd bod y boblogaeth yn llawer uwch na hyn.[2]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Destroying Makoko". The Economist. 18 August 2012.
  2. 2.0 2.1 This Day (1 May 2009). "Makoko Residents And Their Unwanted Guest". Africa News.
  3. Cohen, Roger (20 July 1998). "Nigerian Slum's Filth Is a World Away From Capital's Glitter". The New York Times.
  4. UN Integrated Regional Information Networks (5 September 2006). "Lagos, the mega-city of slums". Africa News. Cyrchwyd 19 September 2009.
  5. "Lagos Makoko slums knocked down in Nigeria". BBC. 17 July 2012. Cyrchwyd 28 February 2015.
  6. "Nigeria: Day After Makoko and Abonema - Frustration of a Homeless Nation". allAfrica.com. Cyrchwyd 28 February 2015.
  7. Tolu Ogunlesi, "Inside Makoko: danger and ingenuity in the world's biggest floating slum", The Guardian, 23 February 2016.
  8. Soni Methu (24 December 2014). "Postcards from home: documenting Nigeria's floating community". CNN. Cyrchwyd October 10, 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]