Neidio i'r cynnwys

Mair Rowlands (gwleidydd)

Oddi ar Wicipedia
Mair Rowlands
Llun Swyddogol, 2026
Aelod o'r Senedd
ar gyfer Bangor Conwy Môn
Deiliad
Cychwyn y swydd
8 Mai 2026
Cynghorydd Gwynedd
ar gyfer Menai (Bangor)
Mewn swydd
3 Mai 2012  5 Mai 2022
Rhagflaenwyd ganRobert Marshall
Dilynwyd ganDiddymwyd y ward
Manylion personol
Ganed (1989-01-02) 2 Ionawr 1989 (37 oed)[1]
Caerdydd
Plaid gwleidyddolPlaid Cymru
Alma materPrifysgol Bangor

Mae Mair Eluned Rowlands (ganwyd 2 Ionawr 1989) yn wleidydd o Gymru sy’n Aelod o’r Senedd dros Fangor Conwy Môn ar ran Plaid Cymru ers 2026.[2]

Cefndir a gyrfa academaidd

[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Rowlands yng Nghaerdydd, ac mae'n byw ym Mangor.[3] Safodd ei thad, John Rowlands, fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Caerdydd a Phenarth ar gyfer etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, ac yn Ynys Môn ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn 2015.[4]

Mynychodd Rowlands Prifysgol Bangor, ac roedd yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.[3] Mae ei phartner yn ddarlithydd yn y brifysgol. Mae ganddi fab.[4]

Cyn cael ei hethol gweithiodd fel Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.[3]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Cynrychiolodd Rowlands ward Menai ym Mangor ar Gyngor Gwynedd o 2012 i 2022.[5][6] Cafodd ei phenodi i'r cabinet yn 2014,[7] ac roedd yn ddirprwy arweinydd rhwng Hydref 2017[8] ac Ebrill 2018.[9]

Rowlands oedd ymgeisydd Plaid Cymru dros Ddyffryn Clwyd yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2015,[10] ac ymgeisydd y blaid dros Ddyffryn Clwyd yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.[11]

Yn etholiad Senedd 2026 cafodd ei hethol yn ail ymgeisydd ar y rhestr ym Mangor Conwy Môn, y tu ôl i arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth.[12][13]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Dewis Chwarae - Filing History - Appointment of Miss Mair Eluned Rowlands as a director on 28 July 2013 (page 2)". Companies House. 26 Tachwedd 2013.
  2. "Map canlyniadau Etholiad y Senedd '26: Pwy sy'n dy gynrychioli di?". newyddion.s4c.cymru. 2026-06-23. Cyrchwyd 2026-06-23.
  3. 1 2 3 "Mair Rowlands AS". senedd.cymru. Cyrchwyd 2026-06-23.
  4. 1 2 New Wales / Cymru Newydd (2026-03-26), Senedd election 2026: Mair Rowlands - Plaid Cymru, https://www.youtube.com/watch?v=K7JFlN5_ePQ, adalwyd 2026-06-23
  5. "Former Bangor Councillor Announces Senedd Bid". The Bangor Aye (yn Saesneg). 21 Mawrth 2025. Cyrchwyd 21 Ebrill 2026.
  6. "Menai (Bangor) Ward — Gwynedd". Local Elections Archive Project. Cyrchwyd 21 Ebrill 2026.
  7. "Browse meetings - The Cabinet". democracy.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2026-05-13.
  8. "Agenda for The Council on Thursday, 5th October, 2017, 1.00 pm". democracy.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2026-05-13.
  9. "New Gwynedd council deputy leader as Mair Rowlands steps down". BBC News (yn Saesneg). 13 Ebrill 2018. Cyrchwyd 29 Ionawr 2026.
  10. "Election result for Vale of Clwyd (Constituency) – MPs and Lords – UK Parliament". members.parliament.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Ionawr 2026.
  11. Williamson, David (1 Mai 2016). "Assembly election 2016: Who is standing in the Vale of Clwyd?". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Ionawr 2026.
  12. Price, Emily (27 Mehefin 2025). "Plaid Cymru reveals candidates for new Bangor Conwy Môn and Clwyd constituencies". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Ionawr 2026.
  13. Mosalski, Ruth (8 Mai 2026). "Wales' Senedd Election results in full as new political map of Wales unveiled". Wales Online (yn Saesneg).