Mai al-Kaila
Mai al-Kaila | |
---|---|
Ganwyd | مي سالم حنا الكيلة 8 Ebrill 1955 Jeriwsalem |
Man preswyl | Bir Zait |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | geinecolegydd, nyrs, gwleidydd, diplomydd, academydd |
Swydd | Palestinian Health Minister, Llysgennad Palesteina i'r Eidal, Llysgennad Palesteina i Tsili |
Cyflogwr |
Mae Mai Al-Kaila (Arabeg: مي الكيلة; ganwyd 8 Ebrill 1955) yn feddyg, diplomydd a gwleidydd Palestesteinaidd, a'r fenyw gyntaf i ddal swydd Gweinidog Iechyd Palestina.[1][2] Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Iechyd Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Iechyd.[3] Bu'n gadeirydd Cyngor Meddygol Palestina yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog Iechyd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Mai Salem Hanna al-Kaila yn Jerwsalem ar 8 Ebrill 1955. Derbyniodd ei haddysg yn ysgolion Birzeit, a'i haddysg uwchradd yn y Coleg Preifat yn Ramallah. Astudiodd nyrsio yn Ysbyty Augusta Victoria yn Jerwsalem ac yna astudiodd meddygaeth ym Mhrifysgol Granada yn Sbaen yna fe arbenigodd ym maes obstetreg a gynaecoleg ym Mhrifysgol California, San Francisco yn Unol Daleithiau America a chael gradd meistr.[4] Enillodd ei PhD mewn Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg o Brifysgol Tsili.[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gweithiodd Al-Kailah fel meddyg preswyl yn Ysbyty Cilgant Coch Palestina yn Jerwsalem yn yr adran Obstetreg a Gynaecoleg.[5] Bu'n darlithio ym Mhrifysgol Al-Quds yn yr Adran Iechyd Cyhoeddus, ac yn UNRWA fel pennaeth y Rhaglen Mamolaeth a Phlentyndod.[5]
Ym 1994, penodwyd Mai Al-Kailah yn rhan o ddirprwyaeth Palestina i gymryd rhan yng Nghynhadledd y Byd ar Fenywod, 1995 yn Beijing, China.[6]
Penodwyd Alkaila yn Llysgennad Talaith Palesteina i Tsili ar 31 Hydref 2005.[7] Parhaodd i wasanaethu yn y rôl honno nes iddi gael ei phenodi'n Llysgennad Palestina i'r Eidal ar 1 Hydref 2013.[3][8][9] Ar 4 Rhagfyr 2016, enillodd etholiadau Cyngor Chwyldroadol Palestina, a gynhaliwyd yn ystod seithfed gynhadledd Fatah, a daeth yn aelod o'r Cyngor.[10]
Ar 13 Ebrill 2019, cymerodd al-Kaila y llw cyfansoddiadol gerbron Arlywydd Palestina Mahmoud Abbas fel Gweinidog Iechyd o fewn llywodraeth Mohammad Shtayyeh.[11]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Yn 2017, dyfarnwyd medal aur i Mai al-Keila gan yr Academi Normanaidd mewn cydweithrediad â Llu Awyr yr Eidal oherwydd ei gwaith yn amddiffyn hawliau dynol y Palesteiniaid.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "مي كيلة تتسلم مهامها وزيرة للصحة". دنيا الوطن.
- ↑ "Woman heads Palestinian Health Ministry for the first time". Al-Monitor.
- ↑ 3.0 3.1 سوا, وكالة. "مي كيلة". وكالة سوا الإخبارية. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw ":0" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ "كل ما تريد معرفته عن وزراء الحكومة الـ18". الترا فلسطين.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "الدكتورة مي كيلة ,, من أسيرة محررة الى دبلوماسية ناجحة الى أول وزيرة صحة ميدانية ,, الى فارسة محاربة في مواجهة". www.alhayat-j.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-22. Cyrchwyd 2021-08-02. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw ":1" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ "Dr. Mai Alkaila". World Bank. Cyrchwyd 15 July 2021.
- ↑ "Libsys Opac". library.lab.pna.ps. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 September 2020.
- ↑ "د.مي كيلة تقدم اوراق اعتمادها سفيرة فلسطين في ايطاليا". وكـالـة مـعـا الاخـبـارية.
- ↑ "Libsys Opac". library.lab.pna.ps. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 September 2020.
- ↑ "الفائزون في انتخابات اللجنة المركزية والمجلس الثوري". 4 March 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 April 2019.
- ↑ info@space.ps, space team www space ps. "دوز - حكومة اشتية تؤدي اليمين الدستورية". www.dooz.ps.
- ↑ "اكاديمية نورمان تمنح د. مي كيله وسامها الذهبي". دنيا الوطن.