Magna Graecia
| Math | rhanbarth, ardal hanesyddol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Sisili |
| Gwlad | |
Ardal hanesyddol yn ne'r Eidal lle'r oedd Groeg yn cael ei siarad yng nghyfnod yr Henfyd oedd Magna Graecia.[1] Roedd yn cwmpasu rhanbarthau modern Calabria, Puglia, Basilicata, Campania, a Sisili. Dechreuodd pobloedd oedd yn siarad Groeg ymsefydlu yma yn yr 8fed ganrif CC.
Sefydlodd nifer o ddinasoedd Groegaidd (metropoleis) aneddiadau yn ne'r Eidal. Gyda threigl amser, esblygodd y rhain yn ddinas-wladwriaethau (poleis) annibynnol. Daeth yr ymsefydlwyr â gwareiddiad Groegaidd gyda nhw, a ddatblygodd gymeriad lleol unigryw dros amser. Gadawodd eu ddiwylliant ôl-effeithiau parhaol ar yr Eidal, gan gynnwys ar ddiwylliant Rhufeinig. Mewn meysydd fel pensaernïaeth a chynllunio trefol, weithiau roedd y trefedigaethau'n rhagori ar gyflawniadau'r famwlad.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ William Smith, "Magna Graecia", Dictionary of Greek and Roman Geography (Llundain, 1854); adalwyd 16 Mawrth 2026
Darllen pellaf
[golygu | golygu cod]- Giovanni Pugliese Carratelli, The Greek World: Art and Civilization in Magna Graecia and Sicily (Efrog Newydd: Rizzoli, 1996)
- Giovanna Ceserani, Italy's Lost Greece: Magna Graecia and the Making of Modern Archaeology (Efrog Newydd: Oxford University Press, 2012)