Magdalena Abakanowicz
Magdalena Abakanowicz | |
---|---|
| |
Ganwyd |
20 Mehefin 1930 ![]() Falenty ![]() |
Bu farw |
20 Ebrill 2017 ![]() Warsaw ![]() |
Dinasyddiaeth |
Gwlad Pwyl ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cerflunydd, artist tecstiliau, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Manus Ultimus, Birds of Knowledge of Good and Evil, Puellae ![]() |
Gwobr/au |
Officier des Arts et des Lettres, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Gwobr Herder, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Pour le Mérite ![]() |
Gwefan |
http://www.abakanowicz.art.pl/ ![]() |
Chwaraeon |
Roedd Marta Magdalena Abakanowicz-Kosmowska, (20 Mehefin 1930 – 20 Ebrill 2017) yn arlunydd o wlad Pwyl.
Cynnwys
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed yn Falenty, ger Warsaw. Roedd ei theulu yn fonheddig ond torrwyd ei magwraeth freintiedig yn fyr gan ymosodiad y Natsïaid ar Wlad Pwyl a'i "rhyddhad" gan yr Undeb Sofietaidd[1].
Derbyniodd ei addysg yn Academi'r Gelfyddyd Gain, Warsaw (1950-55) yn ystod y cyfnod gormesol o Realistiaeth Sosialaidd. Roedd Realistiaeth Sosialaidd yn set o reolau celfyddydol a grëwyd gan Joseff Stalin yn y 1930au, lle bu raid i gelfyddyd bod yn, fod yn 'genedlaethol ei ffurf' a 'sosialaidd ei chynnwys'. Roedd dulliau celf eraill a oedd yn cael eu hymarfer yn y Gorllewin ar y pryd, megis Moderniaeth, wedi'u gwahardd. Er mwyn ceisio osgoi sensoriaeth realaeth sosialaidd rhoddodd y gorau i arddulliau darluniadol mwy confensiynol gan droi at wehyddu.
Ym 1956 priododd Jan Kosmowski.
Yn y 1960au daeth i fri rhyngwladol gyda'i gosodiadau ffibr haniaethol anferth o'r enw ‘Abakans‘. Yn niweddarach rhoddodd gorau i wehyddu gan droi at greu grwpiau ffigurol cyntefig ac aflonyddus allan o sachliain bwrlap. Ar ddiwedd y 1980au dechrau'r 1990au, dechreuodd Abakanowicz ddefnyddio metelau, fel efydd, ar gyfer ei cherfluniau, yn ogystal â phren, carreg a chlai.
Bu'n athro yn Academi Celfyddydau Cain yn Poznań, Gwlad Pwyl o 1965 i 1990 ac yn athro ymweld ym Mhrifysgol California, Los Angeles ym 1984.
Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu farw yn Warsaw wedi cystudd hir yn 86 mlwydd oed.[2]
Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Kitowska-Lysiak, Malgorzata, Magdalena Abakanowicz, Visual Arts Profile, Polish Culture, Art History Institute of the Catholic University of Lublin, 2004
- ↑ New York Times 21 Ebrill 2017 Magdalena Abakanowicz, Sculptor of Brooding Forms, Dies at 86 adalwyd 5 Ionawr 2018
|