Neidio i'r cynnwys

Maeve Courtier-Lilley

Oddi ar Wicipedia
Maeve Courtier-Lilley
Ganwyd31 Mawrth 2001 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores o Gymru yw Maeve Courtier-Lilley (ganwyd 2001). Mae ei rhannau mewn dramâu teledu wedi cynnwys Run Away (2025).The Red King (2024) a The Outpost (2021).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Aberystwyth ac fe'i magwyd yn Ffwrnais, Ceredigion. Yna symudodd i Aberystwyth lle mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth.[1] Dechreuodd actio trwy ymddangos mewn cynyrchiadau llwyfan a chynyrchiadau pantomeim yn lleol.[2][3]

Gwnaeth ymddangosiadau yn y gyfres deledu hirhoedlog Doctors a Casualty ar BBC One.[4] Yn 2021 roedd ganddi rôl achlysurol yn chwarae Luna ym mhedwaredd cyfres The Outpost ar sianel The_CW. [5] Cafodd y brif ran, sef Anna, yn y gyfres ddrama Gymraeg Persona ar gyfer S4C yn 2022. Creuwyd y gyfres gan Elin Gwyn, a chafodd ei henwebu am y Ddrama Deledu Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2023.[6][7]

Yn 2023, chwaraeodd ran Audrey yn y ffilm Gran Turismo.[8] Yn ôl adolygiad gwefan Collider, dywedwyd ei bod wedi dod â "chynhesrwydd aruthrol i rôl a allai mewn dwylo llai abl fod wedi bod yn anghofiadwy".[9]

Yn 2024, ymddangosodd fel Vanessa yn y gyfres hirhoedlog Silent Witness ar BBC One..[10] Cafodd brif rhan yn y gyfres deledu The Red King yn 2024,[11] yn chwarae rhan Winter, a ddisgrifiwyd gan The Guardian fel "plentyn gwyllt yr Ynys".[12]

Chwaraeodd rhan Skyler Price yn y ffilm gomedi ramantus Champagne Problems, ffilm wedi'i gosod yn Ffrainc. Roedd yn actio ochr yn ochr â Minka Kelly a Tom Wozniczka, gyda'r ffilmio yn cymeryd lle fis Medi 2024 cyn ryddhau'r ffilm yn 2025.[13][14] Ym mis Ionawr 2025, roedd yn rhan o gast y gyfres gyffro Run Away ar Netflix, a addaswyd o'r llyfr gan Harlan Coben. Roedd y gyfres yn serennu James Nesbitt ochr yn ochr â Ruth Jones, Alfred Enoch, a Minnie Driver.[15]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2021 Doctors Sophia 1 pennod
2021 The Outpost Luna 13 pennod
2022 Casualty Veronica Fairwell 2 bennod
2022 Persona Anna 6 pennod
2023 Gran Turismo Audrey
2024 Silent Witness Vanessa 2 bennod
2024 The Red King Winter Bain 6 pennod
2025 Champagne Problems Skyler Price Ffilm
2026 Run Away Dee Dee 7 pennod
TBA Fortitude Yn ffilmio

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "News : November 2011". ysgolmyraeg.ceredigion. Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  2. "A bastion of traditional festive entertainment in Ceredigion". Theatre-Wales. 14 Ionawr 2020. Cyrchwyd 13 May 2024.
  3. "'Oliver!' is the musical summer show at Aberystwyth Arts Centre". County Times. 7 Awst 2019. Cyrchwyd 13 May 2024.
  4. Frew, Cameron (18 Awst 2023). "Gran Turismo cast: All actors & characters". Dexerto.com. Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  5. Maas, Jennifer (16 Medi 2021). "'The Outpost' to End With Season 4 on The CW". The Wrap. Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  6. "Bro Lleu at the BAFTAs". 360 Cymru. 16 Hydref 2023. Cyrchwyd 13 Mai 2023.
  7. "2023 BAFTA Cymru Awards: The Winners". bafta.org. 15 Hydref 2023. Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  8. Grobar, Matt (17 Tachwedd 2022). "'Gran Turismo' Film From Sony, PlayStation Productions Adds Four". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  9. Sapio, S.K. (26 Medi 2023). "The 10 Best 'Gran Turismo' Characters, Ranked by Likability". Collider. Cyrchwyd 13 May 2024.
  10. Waddell, Lily (16 Ionawr 2024). "Silent Witness fans fear Jack is 'in trouble' after student Vanessa hits on him". Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  11. Hodgson, Barbara (22 Mehefin 2023). "Filming under way in North East on new crime drama The Red King". Chronicle Live. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
  12. Virtue, Graeme (24 Ebrill 2024). "The Red King review – like a wickedly playful new spin on The Wicker Man". The Guardian. Cyrchwyd 13 Mai 2024.
  13. Singh, Sartaj (14 Tachwedd 2024). "Tom Wozniczka, Flula Borg, and Xavier Samuel to Star in Netflix's 'Champagne Problems' Sartaj Singh of Tom Wozniczka, Flula Borg, and Xavier Samuel to Star in Netflix's 'Champagne Problems'". The Cinemaholic. Cyrchwyd 28 Ebrill 2025.
  14. Mensah, Katelyn (19 Tachwedd 2025). "Champagne Problems cast: Who stars in Minka Kelly's Netflix Christmas movie?". Radio Times. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2025.
  15. "Run Away: James Nesbitt Will Lead Harlan Coben's Next Twisty Mystery". Netflix.com. 21 Ionawr 2025. Cyrchwyd 21 Ionawr 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]