Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rinas
Tu fewn terfynnell, 2016

Maes Awyr Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana neu (Albaneg: Aeroporti Ndërkombëtar i Tiranës Nënë Tereza, Saesneg: Tirana International Airport Nënë Tereza; côd ryngwladol IATA: TIA,ICAO: LATI), a elwir yn gyffredin yn Faes Awyr Rinas, yw prif awyrfa ryngwladol Albania.

Enwyd yr awyrfa ar ôl Y Fam Teresa yn 2002. Roedd hi'n leian a chenhades Catholig yn yr India. Lleolir y maesawyr ym mhentref Rinas sydd 11 km i'r gogledd orllewin o brifddinas Albania, Tirana.

Mae'r maes awyr yn un o'r rhai prysuraf yn y Balcan gan ddygymod gyda 2.6 teithiwr yn 2017. Dinasoedd eraill Ewrop yw ei phrif gyrchfannau. Mae'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y cwmni hedfan domestig, Albawings a fel 'focus city' ar gyfer Adria Airways, Blue Panorama Airlines ac Ernest Airlines.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen awyrfa Tirana, golygfa o du fewn awyren am allan, 1978
Awyrfa Ryngwladol y Fam Teresa, Tirana cyn y dyluniad newydd, 2004

Roedd gan Albani wasanaeth hedfan fasnachol ryngwladol cyn yr Ail Ryfel Byd pan oedd awyr domestig Iwgoslafia, Aeroput yn gweithredu hediadau cyson rhwng Belgrâd a Tirana a glaniad yn Dubrovnik. Adeiladwyd y maes awyr ar y safle yn Rinas rhwng 1955 a 1957. Gyda cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991 a'r rhyddhau'r farchnad a ddaeth yn sgîl hynny, gwelwyd cynnydd sydyn yn nifer y cwmniau hedfan oedd yn defnyddio'r awyrfa.

Cyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae offer y maes awyr wedi'i foderneiddio'n sylweddol, yn dilyn buddsoddiad gan gonsortiwm Tirana International Airport SHPK, a gymerodd reolaeth dros y maes awyr ar 23 Ebrill 2005, ar ôl ennill consesiwn am gyfnod o ugain mlynedd. Mae'r contract consesiwn yn golygu adeiladu terfynell deithwyr hollol newydd a gwahanol welliannau i'r seilwaith, gan gynnwys adeiladu llwybr mynediad newydd. Bydd y gwaith newydd yn gwella'r gwasanaethau a gynigir i deithwyr yn sylweddol. Fodd bynnag, nid oes gan y maes awyr bontydd glanio sy'n caniatáu i deithwyr drothwyo (board) ac dad-drothwyo awyren heb orfod gadael y terfynell. Gyda'r gwelliannau hyn, bydd gan y maes awyr y gallu i ddelio gyda traffig teithwyr Albania am y 10-15 mlynedd nesaf.

Cyrraedd y Maes Awyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Car Cysylltir y maes awyr gan draffordd SH60 (10 km i ffwrdd) i ffordd fynedfa SH2 Durres -Tirana. Ceir gwasnaethau tacsi a llogi car yn yr awyrfa. Mae siwrne o Tirana i'r awyrfa yn cymryd oddeutu 20-25 munud (yn ddibynnol ar y traffig).

Bws Mae bws awyrfa, Rinas Express, wedi ei lleoli y tu allan i derfynnell 'cyrraedd' ac yn gadael ar yr awr bob awr (8.00am - 7.00pm) am ganol dinas Tirana. Hyd y daith yw oddeutu 25 - 30 munud. Mae'r Rinas Express yn gwasanaethau 12 awr (6.00am i 6.00pm) fel gwasanaeth rhwng y maes awyr a'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol dinas Tirana. Cost tocyn un ffordd yw 250 Lek. O ddinas Durres, pris tocyn sengl yw 480 Albanian Lek


Traffig[golygu | golygu cod y dudalen]

Teithwyr, cwmnïau awyrenau ac ystadegau cargo yn Awyrfa Nënë Tereza Airport
Blwyddyn Teithwyr Newid Cwmmni Awyren Newid Cargo
(metric tons)
Newid
2005 785,000 increase20.77% 15,400 N.A. N.A. N.A.
2006 906,103 increase15.43% 15,856 increase 2.96% 2,435 N.A.
2007 1,105,770 increase22.04% 18,258 increase15.15% 3,832 increase57.37%
2008 1,267,041 increase14.58% 19,194 increase 5.13% 2,497 Decrease34.84%
2009 1,394,688 increase10.07% 20,064 increase 4.53% 2,265 Decrease 9.29%
2010 1,536,822 increase10.19% 20,768 increase 3.51% 2,355 increase 3.97%
2011 1,817,073 increase18.24% 22,988 increase10.69% 2,656 increase12.78%
2012 1,665,331 Decrease 8.35% 20,528 Decrease10.70% 1,875 Decrease29.41%
2013 1,757,342 increase 5.53% 19,942 Decrease 2.85% 2,164 increase15.41%
2014 1,810,305 increase 3.02% 17,928 Decrease 3.02% 2,324 increase13.53%
2015 1,997,044 increase 10.3% 20,876 increase 16.4% 2,229 Decrease4.1%[2]
2016 2,195,100 increase 11.3% 22,352 increase 7.1% 2,200 Decrease1%[3]
2017 2,630,338 increase 19.8% 24,336 increase 9% 2,266 increase3%[4]
2018 (01.01 - 28.02) 368,706 increase 11.0% 3606 increase 6.9% 349 increase7.7%[5]

Llwybrau Prysuraf[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwybrau Prysuraf Awyrfa Tirana
Rank Cyrchfan Maes/Meysydd awyr Nifer y Teithwyr 2017[6] Prif carriers
1 Yr Eidal Milan MXP, BGY 390.735 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
2 Yr Eidal Rhufain FCO 323.322 Alitalia, Blue Panorama Airlines
3 Twrci Istanbul IST, SAW 235.286 Pegasus Airlines, Turkish Airlines
4 Awstria Vienna VIE 174.363 Austrian Airlines
5 Yr Eidal Pisa PSA 123.005 Albawings, Ernest Airlines
6 Yr Eidal Verona VRN 118.646 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines, Volotea
7 Yr Eidal Bologna BLQ 116.158 Blue Panorama Airlines, Ernest Airlines
8 Y Deyrnas Unedig London LGW, STN 96.865 Albawings, British Airways, Small Planet Airlines
9 Yr Almaen Frankfurt FRA 90.286 Adria Airways, Lufthansa
10 Gwlad Groeg Athens ATH 84.860 Aegean Airlines

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Local-based carrier Albawings continues to grow successfully in the market - Tirana International Airport". http://www.tirana-airport.com/d/7/46/135/local-based-carrier-albawings-continues-to-grow-successfully-in-the-market/. Adalwyd 21 February 2017.
  2. name="tirana-airport.com"
  3. http://www.tirana-airport.com/l/7/53/company-information/facts-figures/
  4. http://www.instat.gov.al/media/3745/statistikat-e-transportit-dhjetor-2017.pdf
  5. http://www.instat.gov.al/media/3902/statistikat-e-transportit-shkurt-2018.pdf
  6. "Market Statistics - Tirana International Airport". 23 February 2018. http://www.tirana-airport.com/l/6/108/business-to-business/tia-market-statistics.