Maes Awyr Dinas Llundain
Gwedd
| Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Dinas Llundain |
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Newham |
| Agoriad swyddogol | 1987 |
| Cysylltir gyda | gorsaf London City Airport |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 19 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 51.50528°N 0.05528°E |
| Nifer y teithwyr | 3,009,313 |
![]() | |
Maes awyr rhanbarthol yn nwyrain Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Maes Awyr Dinas Llundain (IATA: LCY, ICAO: EGLC). Datblygwyd y maes awyr gan y cwmni peirianneg Mowlem yn 1986–87. Fe'i lleolir yn yr hen Ddociau Brenhinol ym Mwrdeistref Llundain Newham, tua 6 milltir (10 km) i'r dwyrain o Ddinas Llundain a 3 milltir (5 km) i'r dwyrain o Canary Wharf. Dyma'r ddwy brif ganolfan ariannol yn Llundain, a nhw yw prif ddefnyddwyr y maes awyr.[1]
Dyma'r pumed maes awyr prysuraf o ran teithwyr ac awyrennau sy'n gwasanaethu ardal Llundain — ar ôl Heathrow, Gatwick, Stansted a Luton.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "London City Airport master plan 2020" (yn en). London City Airport: 17. 4 Rhagfyr 2020.
- ↑ "CITY". World Aero Data (yn Saesneg). WorldAeroData.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-02. Cyrchwyd 2 Mawrth 2020.
