Mae Gynnon Ni Hawl Ar Y Sêr
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 2007 |
| Awdur | Iwan Llwyd |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | heb ei chyhoeddi |
| Cysylltir gyda | Llwyfan Gogledd Cymru |
| Prif bwnc | Hedd Wyn |
| Dyddiad y perff. 1af | 2007 |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan Gymraeg am hanes Hedd Wyn yw Mae Gynnon Ni Hawl Ar Y Sêr gan y bardd Iwan Llwyd. Llwyfannwyd y ddrama gan Llwyfan Gogledd Cymru yn 2007, 90 mlynedd ers marwolaeth y bardd.[1] Ni chafodd y ddrama ei chyhoeddi. Nodir ar gefn y daflen hysbysu "Petai Hedd Wyn wedi goroesi a dychwelyd i Gymru a fyddai wedi bod cyn bwysiced i ni fel cenedl ag ydyw heddiw?".[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Alois
- Pedr
- Ellis (Hedd Wyn)
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]"Drama ddirdynnol llawn hiwmor sy'n cwestiynu" oedd disgrifiad Llwyfan Gogledd Cymru ohoni yn 2007. "Drama am orthrwm ac effaith rhyfel ar yr unigolyn, ar gelf ac ar gymdeithas: drama gref a hynod amserol".[1]
Gwreiddyn y ddrama, yn ôl y dramodydd oedd y darganfyddiad bod Hedd Wyn "...y bugail breuddwydiol o foelydd Trawsfynydd" wedi cwrdd â "milwr o Rwsia bell, [ym 1917] lle'r oedd cynhyrfiadau'r chwyldro Comiwnyddol eisoes ar y gweill."[2]
Mae'r ddrama yn ymdrin â'r ffin rhwng barddoniaeth a gwleidyddiaeth.
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Yn nhafarn y Fat Cat, Bangor oeddwn i pan soniodd Iwan Llwyd am ei ddyhead i ysgrifennu drama am Hedd Wyn yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf" eglura cyfarwyddwr y ddrama, Ian Rowlands, yn Rhaglen y Cynhyrchiad yn 2007.[2] Aiff Rowlands ymlaen i egluro bod "dadansoddiad Iwan" o'r "eicon" yn rhyw fath o "ail asesiad", a thrwy hynny yn gyfle i "gwestiynnu elfennau o natur Cymreictod".[2]
Gwreiddyn y ddrama, yn ôl Iwan Llwyd oedd dyfyniad o lythyr gan Hedd Wyn "wrth iddo fynd am y ffosydd, yr union gyfnod yr oedd o'n cwblhau ei awdl i'r 'Arwr' cyn ei danfon i gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917:
"Mae yma lawer math o bobol i'w gweled o gwmpas yma, gwelais lawer o Rwsiaid a difyr yw cael hamdden i edrych ar y rhai hyn, a gwybod eu bod yn dystion o dragwyddoldeb eisoes, - eu gwlad, eu caethiwed hen, a'i deffro sydyn".[2]
"Gyrrwyd y llythyr o 'rywle yn Ffrainc'," eglura Llwyd, "cwta fis cyn i Hedd Wyn gael ei ladd ar ddydd olaf Gorffennaf, 1917. Tan i mi ddarllen y llythyr, 'doeddwn i ddim yn ymwybodol bod milwyr o Rwsia yn ymladd gyda'r Cynghreiriaid ar y ffrynt orllewinol yn Ffrainc a Fflandrys. Ond o ymchwilio ymhellach, dyna gael ar ddeall bod milwyr o Rwsia wedi bod yn Ffrainc er dechrau'r rhyfel yn gwrthsefyll cyrchoedd yr Almaenwyr," nododd.[2]
Cyfarwyddwyd golygfeydd cynnar o'r ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri 2005, ac wedi hynny bu peth ail-ysgrifennu hyd nes i Iwan Llwyd orffen drafft gyflawn ohoni.[2] Cafodd y ddrama ei datblygu ymhellach gan Huw Garmon, Elin Wmffras a Iwan Tudor cyn ei llwyfannu'n derfynol yn 2007.[2]
Roedd dewis Huw Garmon yn y cast cyntaf yn ddewis bwriadol, gan mai ef fu'n portreadu Hedd Wyn yn y ffilm enwog o'r un enw.[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Llwyfan Gogledd Cymru o dan gyfarwyddyd Ian Rowlands yn 2007. Cynllunydd Rhys Jarman; Goleuo Duncan Thompson: Cast:
- Alois - Rhian Blythe
- Pedr - Huw Garmon
- Ellis (Hedd Wyn) - Huw Llŷr