Madfall y tywod

Oddi ar Wicipedia
Madfall y tywod
Gwryw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Squamata
Teulu: Lacertidae
Genws: Lacerta
Rhywogaeth: L. agilis
Enw deuenwol
Lacerta agilis
Linnaeus, 1758
miniatur
miniatur

Madfall fach a geir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Chanolbarth Asia yw madfall y tywod (Lacerta agilis). Mae ganddi hyd o tua 15–19 cm.[1] Mae'r cefn yn frown neu lwyd gyda smotiau du a gwyn. Mae'r bol yn wyn, melyn neu wyrdd. Mae gan y gwryw ystlysau gwyrdd llachar yn ystod y tymor bridio.[2]

Mae'n byw mewn rhostir, glaswelltir, a thwyni.[2] yng ngwledydd gwledydd Prydain, fe'i ceir yn Ne a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi cael ei hailgyflwyno i Ogledd Cymru ac ynys Coll yn yr Alban.[1] Mae'n bwydo ar bryfed a phryfed cop yn bennaf.[1] Mae'n dodwy 4–14 ŵy sy'n cael eu claddu mewn tir tywodlyd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 1.2 Inns, Howard (2009) Britain's Reptiles and Amphibians, Wildguides, Hampshire.
  2. 2.0 2.1 2.2 Arnold, Nicholas & Denys Ovendon (2004) A Field Guide to the Reptiles and Amphibians of Britain and Europe, Collins, Llundain.
Eginyn erthygl sydd uchod am ymlusgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.