Neidio i'r cynnwys

Madfabulous

Oddi ar Wicipedia
Madfabulous
Cyfarwyddwyd ganCelyn Jones
Cynhyrchwyd gan
  • Nadia Jaynes
  • Sean Marley
SgriptLisa Baker
Yn serennu
Dosbarthwyd ganIcon Film Distribution
Rhyddhawyd gan
  • 25 Mawrth 2026 (2026-03-25) (LLGBTIQFF)
  • 5 Mehefin 2026 (2026-06-05) (Deyrnas Unedg)
Hyd y ffilm (amser)108 munud[1]
GwladCymru
IaithSaesneg

Ffilm ddrama hanesyddol o Gymru yw Madfabulous. Mae'n dangos hanes Henry, 5ed Ardalydd Ynys Môn, wedi'i chyfarwyddo gan Celyn Jones ac yn serennu Rupert Everett, Ruby Stokes a Callum Scott Howells.

Wedi'i osod ar ddiwedd y 19eg ganrif, mae 5ed Ardalydd Ynys Môn yn arglwydd lliwgar sy'n byw bywyd afradlon.[2]

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Cyfarwyddwyd y ffilm gan Celyn Jones a chynhyrchwyd hi gan ei gwmni ffilm Mad as Birds. Ysgrifennwyd y sgript gan Lisa Baker a hon yw ei ffilm gyntaf. Y cynhyrchwyr yw Nadia Jaynes a Sean Marley a'r cynhyrchydd gweithredol yw Nicola Pearcey o Picnik Entertainment. Daeth cefnogaeth ariannol gan Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy Greadigol.[3]

Ymunodd Callum Scott Howells â'r cast ym mis Mai 2024 yn y brif ran fel Henry, 5ed Ardalydd Ynys Môn.[4] Ymunodd Ruby Stokes a Rupert Everett â'r cast ym mis Awst 2024.[5]

Dechreuodd y prif ffilmio yng Nghymru ym mis Awst 2024 ac mae'r lleoliadau ffilmio yn cynnwys Ynys Môn, Caernarfon a Phwllheli.[6][7]

Rhyddhau

[golygu | golygu cod]

Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf yn y byd yng Ngŵyl Ffilm LGBTIQ+ BFI Flare: Llundain ar 25 Mawrth 2026,[8] cyn iddi gael ei rhyddhau mewn theatrau yn y Deyrnas Unedig ar 5 Mehefin, gan Icon Film Distribution.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Madfabulous (12A)". British Board of Film Classification (yn Saesneg). 6 Mawrth 2026. Cyrchwyd 6 Mawrth 2026.
  2. Ramachandran, Naman (8 Mai 2024). "'The Almond and the Seahorse' Filmmaker Celyn Jones to Direct 'Madfabulous' (EXCLUSIVE)". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  3. Wiseman, Andreas (29 Mai 2024). "'It's A Sin' Star Callum Scott Howells To Play Flamboyant Aristocrat Henry Paget In Film 'Madfabulous'". Deadline Hollywood (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2024.
  4. Rowan, Iona (1 Mehefin 2024). "It's a Sin star Callum Scott Howells lands next lead movie role". Digital Spy (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  5. Mensah, Katelyn (22 Awst 2024). "Bridgerton star Ruby Stokes confirmed for lead role in new period drama". Radio Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2024.
  6. Ntim, Zac; Wiseman, Andreas (12 Awst 2024). "Rupert Everett And 'Bridgerton' Actor Ruby Stokes Join Alternative British Period Feature 'Madfabulous', Production Begins In Wales". Deadline Hollywood (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2024.
  7. Forgrave, Andrew (17 Awst 2024). "Madfabulous film of Anglesey eccentric who 'invented the selfie' and blew £43m on perfume and pink poodles". Daily Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Awst 2024.
  8. "Buy tickets for Madfabulous". BFI Flare: London LGBTIQ+ Film Festival (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2026.
  9. Dalton, Ben (6 Mawrth 2026). "UK-Ireland film cinema release dates: latest updates for 2026". Screen Daily (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2026.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]