Mabel Brookes

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:46, 5 Chwefror 2020 gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau)
Mabel Brookes
Ganwyd15 Mehefin 1890 Edit this on Wikidata
South Yarra Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1975 Edit this on Wikidata
South Yarra Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Galwedigaethysgrifennwr, cymdeithaswr, charity worker Edit this on Wikidata
MamAlice Mabel Emmerton Edit this on Wikidata
PriodNorman Brookes Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, CBE, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Awdures o Awstralia oedd Mabel Brookes (15 Mehefin 1890 - 30 Ebrill 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a chymdeithaswr.

Bywyd a gyrfa

Ganwyd Mabel Brookes yn South Yarra, Victoria, Awstralia yn unig blentyn i gyfreithiwr o Melbourne a H. Emmerton a'i wraig. Cafodd ei haddysgu gan ei thad a chyfres o athrawesau cartref a disgrifiodd ei phlentyndod fel un unig. A hithau'n 18 oed, fe ddyweddiodd gyda Norman Brookes, chwaraewr tenis a'r Awstraliad cyntaf i ennill Wimbeldon. Priododd y ddau yn Eglwys Anglicanaidd St Paul yn Melbourne ar 19 Ebrill 1911 a thair blynedd yn ddiweddarach rhoddodd Mabel enedigaeth i'w merch gyntaf (ganwyd dwy ferch arall iddynt yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd). Aeth Mabel ar sawl taith dramor gyda'i gŵr i gystaedlaethau tenis yn Ewrop ac UDA. Yna yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan oedd Norman Brookes yn gweithio yng Nghairo fel comisiynydd cangen Awstralia o'r Groes Goch Brydeinig. Ysbrydolwyd rhai o weithiau llenyddol Mabel gan ei chyfnod yn yr Aifft - Broken Idols (Melville and Mullin, 1917) ac Old Desires (Australian Authors Agency, 1922). Pan gafodd ei gŵr ei anfon i Mesopotamia yn 1917 dylchwelodd Mabel i Melbourne. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd caniataodd teulu'r Brookes i'w cartref yn Kurneh gael ei ddefnyddio gan y Groes Goch fel catref ymadfer i filwyr oedd wedi dychwelyd o'r Rhyfel. Gwasanaethodd fel llywydd y Queen Victoria Hospital rhwng 1923 ac 1970 ac enwyd adain newydd o'r ysbyty ar ei hôl. Cyhoeddodd hunangofiant yn 1974 lle mae'n dwyn i gof amrywiol ddigwyddiadau yn ystod ei bywyd, gan gynnwys cwrdd â nifer o bobl nodedig a hanesyddol. Bu farw Mabel Brookes yn South Yarra ar 30 Ebrill 1975 yn 84 oed.[1][2]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Brookes, Mabel Balcombe (1917). Broken idols. Melbourne: Melville & Mullen.
  2. "'The woman who is Melbourne' dies". The Sydney Morning Herald – Google News Archive Search. 1 Mai 1975. t. 10. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2016.