Mabel Beardsley

Oddi ar Wicipedia
Mabel Beardsley
Ganwyd24 Awst 1871 Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1916 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Roedd Mabel Beardsley (24 Awst 1871 - 8 Mai 1916) yn actores Fictoraidd Seisnig ac yn chwaer hynaf y darlunydd enwog Aubrey Beardsley, a chafodd "dipyn bach o enwogrwydd am ei hymddangosiad egsotig a gwladaidd", yn ôl cofiannydd ei brawd,.[1]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Beardsley yn Brighton ar 24 Awst 1871.[2][3] Roedd ei thad, Vincent Paul Beardsley (1839 – 1909), yn fab i grefftwr; Fodd bynnag, nid oedd gan Vincent unrhyw fasnach ei hun, ac yn hytrach dibynnodd ar incwm preifat o etifeddiaeth a gafodd gan daid ei fam pan oedd yn 21 oed.[4] Roedd gwraig Vincent, Ellen Agnus Pitt (1846 – 1932), yn ferch i'r Uwchgapten Llawfeddygol William Pitt o Fyddin India. Roedd y teulu Pitt yn deulu sefydledig ac uchel ei barch yn Brighton, a phriododd mam Beardsley ddyn â statws cymdeithasol llai nag y gellid bod wedi'i ddisgwyl. Yn fuan ar ôl eu priodas, roedd yn rhaid i Vincent werthu peth o'i eiddo er mwyn setlo hawliad am ei "dorri addewid" gan fenyw arall a honnodd ei fod wedi addo ei phriodi.[5] Ym 1883, ymgartrefodd ei theulu yn Llundain, ac yn y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd yn gyhoeddus yn chwarae mewn sawl cyngerdd gyda'i brawd Aubrey.

Ym 1902, priododd ei chyd actor George Bealby Wright,[1] roedd o tua 25 oed, ac yn defnyddio'r enw llwyfan George Bealby.[6]

Bu farw ar 8 Mai 1916,[7] a'i chladdu ym Mynwent St. Pancras, Llundain.[8]

Portreadau ar y cyfryngau[golygu | golygu cod]

Yn Aubrey drama yn y gyfres Playhouse ym 1982, a ysgrifennwyd gan John Selwyn Gilbert, cafodd Beardsley ei chwarae gan yr actores Rula Lenska.

Ymddangosiadau[golygu | golygu cod]

  • Four Little Girls gan Walter Stokes Craven, agorwyd yn Theatr y Criterion, 17 Gorffennaf 1897.[9]
  • The Queen's Proctor, Royalty Theatre, Mehefin 1896

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Aubrey Beardsley, Henry Maas, John Duncan, W. G. Good, The letters of Aubrey Beardsley, Publisher: Fairleigh Dickinson Univ Press, 1970, ISBN 0838668844, 9780838668849, 472 pages, page 394
  2. Matthew Sturgis, "Aubrey Beardsley: A Biography", New York Times online
  3. "England, Births and Christenings, 1538-1975," index, FamilySearch, accessed 5 April 2012, Mabel Beardsley (1871).
  4. Sturgis, tud. 8
  5. Sturgis, tud. 10
  6. Malcolm Easton, Aubrey and the dying lady: a Beardsley riddle, Publisher: Secker and Warburg, 1972, 272 pages, pages xx and 219
  7. David A. Ross, Critical Companion to William Butler Yeats, Publisher: Infobase Publishing, 2009, ISBN 1438126921, 9781438126920, 652 pages, page 270
  8. Mabel Beardsley Wright at findagrave.com, adalwyd 20 Mehefin 2020
  9. Henry Maas, John Duncan, W.G. Good, The Letters of Aubrey Beardsley, Publisher: Fairleigh Dickinson Univ Press, 1970, ISBN 0838668844, 9780838668849, 472 pages, page 347