Løgting

Oddi ar Wicipedia
Senedd Ynysoedd Ffaröe
Føroya Løgting/Løgtingið Nodyn:Fo icon
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathUn siambr
Arweinyddiaeth
SpeakerPáll á Reynatúgvu, Republic
ers Medi 2015
Cyfansoddiad
Aelodau33
Løgting Samanseting 2.svg
Grwpiau gwleidyddolGovernment (16)

     Social Democratic Party : 7 seats      Republic : 7 seats      Progress : 2 seats Supported by (1)      Independent: 1 seat Opposition (16)      Centre Party : 2 seats      New Self-Government : 2 seats      Union Party : 6 seats

     People's Party : 6 seats
Etholiadau
Etholiad diwethaf1 September 2015
Etholiad nesafBy 1 September 2019
Man cyfarfod
Lagting.tórshavn.jpg
Tórshavn
Gwefan
logting.fo

Y Løgting (ynghanner yn ôl wyddor IPA:ˈlœktɪŋɡ) yw senedd un-siambr Ynysoedd Ffaröe. Enw'r senedd yn Ffaroeg yw Føroya Løgting neu'n syml Løgtingið, ac yn Daneg (mae'r Ynysoedd yn diriogaeth hunan-lywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc) yn Færøernes Lagting/Lagtinget.

Mae iddi 33 aelod seneddol, sydd â mandad am 4 mlynedd. Fe'i lleolir yn y brifddinas, Tórshavn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol, sefydlwyd yr hyn a ddaeth yn Logting ar hyd llinellau yr Althing, fel a geir yng Ngwlad yr Iâ yn yr Oesoedd Canol, hynny yw, cyfarfod cyhoeddus lle roedd gan bob dyn rhydd ar yr ynysoedd yr hawl i gwrdd i ddatrys anghydfod bersonol neu gymunedol. Datblygodd hyn, maes o law, i fod yn Løgting ("Y Peth Cyfraith/Cyfreithfa"), o dan gadeiryddiaeth løgmaður ( "cyfreithiwr") oedd yn gynrychiolydd o bob cymuned leol.

Bydd y Løgting yn ymgynnull unwaith y flwyddyn yn ystod yr haf ar Benrhyn Tinganes yn Torshavn adeg dathliadau nawddsant y genedl, yr Ólavsøka sydd ar ddydd Sant Olaf ar 29 Gorffennaf. Mae'n sefyll yn gyntaf yn yr awyr agored, ar y pentir, ond yn ddiweddarach, symudodd y gynulleidfa i mewn i un o'r bychain Tinganes.

Mae 1274 yn flwyddyn bwysig yn hanes y Løgting. Roedd yr ynosoedd ar y pryd yn rhan o frenhiniaeth Norwy. Ers y flwyddyn honno gweithredodd y Løgting nid yn unig gyfreithiau Norwyaidd Magnus VI, Brenin Norwy, ond hefyd cyfreithiau penodol yn yr Ynysoedd, fel y rhai a ddisgrifir yn y "llythyrau'r defaid" (Seyðabrævið) o 1298, sy'n rheoleiddio bridio defaid.

Tua diwedd yr 17g, ciliodd dylanwad a grym y Løgting i rym cynrychiolwyr y brenin. Yn 1816 diddymwyd y Løgting a daeth Ynysoedd Ffaroe yn eiddo i Ddenmarc. Llywodrethwyd y wlad gan Prefect a benodwyd gan y Daniaid a'i swyddogion. Bu'n rhaid aros nes 1852 i'r Løgting ailgyfansoddi a chwrdd eto. Bedair blynedd yn ddiweddarach, sefydlwyd y Logting mewn adeilad pwpasol, y "Løgtingshúsið", aadeiladwyd yn arbennig ar gyfer yn yr hen ardal tref Torshavn (62 ° 00 '38 "N, 6 ° 46 '18" W).

Etholiadau[golygu | golygu cod]

Cynhelir etholiadau bob 4 mlynedd gyda'r pleidleiswyr yn bwrw pleidlais dros bleidiau. Bydd canran y bleidlais yn hafalu nifer y seddi.

Bydd pobl Ynysoedd Ffaröe hefyd yn pleidleisio yn etholiadau cenedlaethol Denmarc gan ddanfon 2 gynrychiolydd yno.

Senedd 2015-2019[golygu | golygu cod]

Canlyniad etholiad y Løgting ar 1 Medi 2015
Plaid Pleidlais % Seddi
Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd (Javnaðarflokkurin) 8,074 25,1 8
Plaid Weriniaethol (Tjóðveldi) 6,681 20,8 7
Plaid y Werin (ceidwadol) (Fólkaflokkurin) 6,091 18,9 6
Plaid Unoliaethol (ceidwadol) (Sambandsflokkurin) 6,036 18,8 6
'Y Blaid Flaengar' (Framsókn) 2,239 7,0 2
Plaid y Canol (Miðflokkurin) 1,775 5,7 2
Plaid Hunanlywodraeth (Sjálvstýrisflokkurin) 1,304 4,0 2
Cyfanswm (88,8 % wedi pleidleisio) 32,375 100 33

Oriel[golygu | golygu cod]