Léon Damas

Oddi ar Wicipedia
Léon Damas
Ganwyd28 Mawrth 1912 Edit this on Wikidata
Cayenne Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 1978 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
Man preswylWashington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Cenedlaethol Ieithoedd a Gwareiddiadau Dwyreiniol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Georgetown
  • Prifysgol Howard Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAdran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol Edit this on Wikidata
MudiadNégritude Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrix littéraire des Caraïbes Edit this on Wikidata

Bardd Ffrangeg o Guyane oedd Léon-Gentran Damas (28 Mawrth 191222 Ionawr 1978) a oedd yn un o sefydlwyr y mudiad Négritude.

Ganwyd yn Cayenne, prifddinas Guyane. Aeth i ynys Martinique i fynychu'r Lycée Victor-Schœlcher yn Fort-de-France, ac yno bu'n gyfaill i Aimé Césaire, un o sefydlwyr eraill Négritude. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Paris yn ogystal â chyrsiau ychwanegol am anthropoleg, hanes, ac ieithoedd Dwyreiniol. Ymunodd â'r mudiadau adain chwith a gwrthdrefedigaethol, ac ymddiddorodd yng nghelf y swrealwyr a diwylliant yr Americanwyr Affricanaidd. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn 1934, a chyd-sefydlodd y cylchgrawn L’étudiant noir (1934–40) gyda Césaire a Leopold Senghor.[1]

Gwasanaethodd ym Myddin Ffrainc a'r résistance yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, cynrychiolodd Guyane yn ddirprwy yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc o 1945 i 1951. Gweithiodd i UNESCO ac i Radio France yn y 1960au. Symudodd i'r Unol Daleithiau yn 1970 a bu'n gweithio mewn colegau a phrifysgolion yn Washington, D.C. Bu farw yn Washington, D.C. yn 65 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 James M. Manheim, "Damas, Léon-Gontran 1912–1978" yn Contemporary Black Biography (Thomson Gale, 2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Awst 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Daniel L. Racine (gol.), Léon-Gontran Damas, 1912-1978: founder of Negritude, A Memorial Casebook (University Press of America, 1979).
  • Keith Q. Warner (gol.), Critical Perspectives on Léon-Gontran Damas (Three Continents Press, 1988).