Lyudmila Alexeyeva

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lyudmila Alexeyeva
Lyudmila Alexeyeva.jpg
Ganwyd 20 Gorffennaf 1927 Edit this on Wikidata
Yevpatoria Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Rhagfyr 2018 Edit this on Wikidata (91 oed)
Moscfa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Cydadran Hanes MSU Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Hanesydd, Awdur, gweithredydd dros hawliau dynol, Ysgrifennwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sefydliad Gwybodaeth Wyddonol ar y Gwyddorau Cymdeithasol Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Priod Nikolai Vilyams Edit this on Wikidata
Gwobr/au Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Olof Palme, Gwobr Sakharov, Gwobr Hawliau Dynol Václav Havel, Cadlywydd Urdd Uwch Ddug Gediminas, Urdd Croes Terra Mariana, 3ydd Dosbarth, Gwobr Wladwriaeth Ffederasiwn Rwsia Edit this on Wikidata
Gwefan http://lm-alexeeva.livejournal.com/ Edit this on Wikidata
Recorded in October 2012

Trafferth chwarae'r ffeil hon? Gweler yr Adran Gymorth.

Hanesydd o Rwsia oedd Lyudmila Alexeyeva (Russian: Людми́ла Миха́йловна Алексе́ева, IPA: [lʲʊˈdmʲilə ɐlʲɪˈksʲeɪvə]; 20 Gorffennaf 1927 - 8 Rhagfyr 2018) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gweithredydd dros hawliau dynol ac awdur.[1] Roedd yn un o'r gwrthwynebwyr Sofietaidd diwethaf a oedd yn weithgar yn y Rwsia fodern.[2][3]

Fe'i ganed yn Yevpatoria, gorllewin y Crimea a bu farw yn Moscfa. [4][5][6]

Y cyfnod Sofietaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ebrill 1968, cafodd Alexeyeva ei diarddel o'r Blaid Gomiwnyddol a a chollodd ei swydd yn y tŷ cyhoeddi. Serch hynny, parhaodd â'i gweithgareddau i amddiffyn hawliau dynol. Rhwng 1968 a 1972 gweithiodd yn ddirgel fel teipydd ar gyfer y bwletin tanddaearol cyntaf o Хро́ника теку́щих собы́тий (Cronicl o Ddigwyddiadau Cyfoes), papur a oedd yn canolbwyntio ar droseddau hawliau dynol yn yr Undeb Sofietaidd.

Yn Chwefror 1977, ffodd Alexeyeva o'r Undeb Sofietaidd i Unol Daleithiau America yn dilyn ymgyrch gan yr awdurdodau Sofietaidd yn erbyn aelodau o'r Cronicl. Yn yr Unol Daleithiau parhaodd Alexeyeva i eiriol dros welliannau hawliau dynol yn Rwsia a bu'n gweithio ar ei liwt ei hun ar gyfer 'Radio Free Europe', 'Radio Liberty' a 'Voice of America'. Daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau ym 1982.[7]

Yn 1990, cyhoeddodd The Thaw Generation, hunangofiant a ddisgrifiodd ffurfio'r mudiad gwrth-Sofietaidd; cyd-ysgrifennwyd â Paul Goldberg.[8]

Yn ôl i Rwsia[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1989 ailddechreuodd Grŵp Helsinki Moscow yn dilyn ei ddiddymiad ym 1982. Yn 1993, ar ôl diddymiad yr Undeb Sofietaidd, dychwelodd i Rwsia, a daeth yn gadeirydd Grŵp Moscow Helsinki ym 1996. Yn 2000, ymunodd Alexeyeva â chomisiwn a sefydlwyd i gynghori'r Arlywydd Vladimir Putin ar faterion hawliau dynol, symudiad a sbardunodd cryn feirniadaeth gan rai gweithredwyr hawliau eraill.[9][3]

Roedd Alexeyeva yn feirniadol o record hawliau dynol y Kremlin ac fe gyhuddodd y llywodraeth o droseddau yn erbyn hawliau dynol niferus gan gynnwys gwahardd cyfarfodydd a phrotestiadau di-drais ac anog eithafwyr gyda'i bolisïau cenedlaetholgar, fel alltudiadio llu o Georgiaid yn 2006 a chyrchoedd heddlu yn erbyn tramorwyr a weithiai mewn marchnadoedd stryd.[10]

Yn 2006, cafodd ei chyhuddo gan awdurdodau Rwsia o ymwneud â chudd-wybodaeth Prydain a derbyniodd fygythiadau gan grwpiau cenedlaetholgar.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gyngor Arlywyddol mewn Iawnderau Dynol a Chymdeithas Sifil am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Officier de la Légion d'honneur, Cadlywydd Urdd Uwch Ddug Gediminas, Urdd Croes Terra Mariana, 3ydd Dosbarth, Gwobr Wladwriaeth Ffederasiwn Rwsia

Llyfryddiaeth, erthyglau a chyfweliadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "В Москве умерла правозащитница Людмила Алексеева". BBC Russian Cervice. 8 Rhagfyr 2018. https://www.bbc.com/russian/news-46496516. Adalwyd 8 Rhagfyr 2018.
  2. New politics. New Politics Associates. 1989. p. 133.
  3. 3.0 3.1 Maria Danilova (15 June 2004). "Lyudmila Alexeyeva Speaks Her Mind". Associated Press. The St. Petersburg Times. Archifwyd o y gwreiddiol. Error: If you specify |archiveurl=, you must also specify |archivedate=. https://web.archive.org/web/20070610095823/http://www.sptimes.ru/index.php?action_id=2&story_id=771. Adalwyd 9 Rhagfyr 2018.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, GND 119000865, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 15 Hydref 2015Wikidata Q36578 https://www.lepoint.fr/monde/lioudmila-alexeeva-la-lutte-pour-les-droits-de-l-homme-de-brejnev-a-poutine-08-12-2018-2277600_24.php.
  5. Dyddiad marw: https://www.lepoint.fr/monde/lioudmila-alexeeva-la-lutte-pour-les-droits-de-l-homme-de-brejnev-a-poutine-08-12-2018-2277600_24.php.
  6. Man geni: https://www.lepoint.fr/monde/lioudmila-alexeeva-la-lutte-pour-les-droits-de-l-homme-de-brejnev-a-poutine-08-12-2018-2277600_24.php.
  7. "Алексеева отвергла намеки ТВ на ее связь со шпионами" (yn ru). BBC News Русская служба. https://www.bbc.com/russian/russia/2012/01/120123_russia_spy_rock_alexeeva.shtml. Adalwyd 8 December 2018.
  8. Alexeyeva, Ludmilla; Goldberg, Paul (1990). The thaw generation: coming of age in the post-Stalin era. Pittsburgh: University of Pittsburgh Press. ISBN 978-0822959113.
  9. "The Doyenne Of Russia's Human Rights Movement" (yn en). Radio Free Europe/Radio Liberty. https://www.rferl.org/a/russia-alekseyeva-helsinki-group-anniversary/27730671.html. Adalwyd 8 Rhagfyr 2018.
  10. Gregory Feifer (March 7, 2007), Russia's New Dissidents Defend Human Rights. National Public Radio.