Neidio i'r cynnwys

Lyra (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Lyra
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y gogledd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04lsj edit this on wikidata
QuoraLyre edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Lyra. Fe'i enwir felly ar ôl yr offeryn cerdd hynafol, y lyra. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Lyra
Llun o'r sêr mwyaf disglair yng nghytser Lyra, gyda Vega ar ben y ddelwedd

I'r llygad noeth, mae'r cytser yn cael ei ddominyddu gan Vega, neu Alffa Lyrae (α Lyr), un o'r sêr disgleiriaf yn yr holl wybren.[2] Gyda dosbarth spectrol o A0V, mae lliw gwyn neu las-gwyn gan Vega., gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 0.03.[3][4][5]

Mae Beta Lyrae (β Lyr), hefyd Sheliak, yn seren ddwbl gyda'r ddwy seren mor agos mae nwy yn trosglwyddo o un i'r llall. Seren luosg yw Epsilon Lyrae (ε Lyr), gyda dau gwrthrych i'w weld trwy delesgop bach amatur. Ond mae telesgopau ychydig mwy yn dangos bod y ddau eu hunain yn ddeol.[2][5]

Lleolir Messier 57, neu Nifwyl y Fodrwy, yn Lyra, nifwl planedol adnabyddus a grewyd gan nwy sy wedi'i chwythu oddi wrth hen seren esblygedig.[2]

Mae'r clwstwr globylog Messier 56 i'w weld yn Lyra.[2]

Nifwl planedol Messier 57, neu Nifwl y Fodrwy
Messier 56, clwstwr globylog yn Lyra

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Lyra", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 28 Mawrth 2025
  2. 1 2 3 4 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook (yn Saesneg). Efrog Newydd: Dover Publications, Inc., tud. 1131–1178. ISBN 0-486-23568-8 (Cyfrol 2.)
  3. Hoffleit, Dorrit; Jaschek, Carlos (1982). The Bright Star Catalog. New Haven, Connecticut: Yale University Observatory. (4ydd argraffiad) (HR 7001) (Yn Saesneg.)
  4.  Cronfa Ddata SIMBAD. Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Adalwyd ar 18 Mawrth 2017. (Yn Saesneg.) Chwiliad am Vega yn adnodd Simbad.
  5. 1 2  IAU Catalog of Star Names (2016). Adalwyd ar 23 Ebrill 2017. (Catalog swyddogol enwau traddodiadol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]