Lynda Baron

Oddi ar Wicipedia
Lynda Baron
GanwydLilian Baron Edit this on Wikidata
24 Mawrth 1939 Edit this on Wikidata
Urmston Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Roedd Lilian Baron (24 Mawrth 19395 Mawrth 2022), a elwir yn broffesiynol fel Lynda Baron yn actores, digrifwr a chantores Seisnig. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Nyrs Gladys Emmanuel yng nghyfres gomedi'r BBC Open All Hours (1976–1985) a'i dilyniant, Still Open All Hours (2013–2016). Chwaraeodd y rhan Auntie Mabel yn y gyfres i blant Come Outside (1993–1997), a rhan Linda Clarke yn EastEnders yn 2006 ac o 2008 i 2009, gyda dychweliad byr yn 2016.

Cafodd Baron ei geni yn Urmston, Swydd Gaerhirfryn. [1] Hyfforddodd yn wreiddiol fel dawnswraig yn yr Academi Ddawns Frenhinol.[1]

Ym 1987, serennodd Baron yng nghynhyrchiad Llundain o'r sioe gerdd Follies yn Theatr Shaftesbury. Yn 2007, roedd hi'n serennu gydag Orlando Bloom a Tim Healy mewn fersiwn llwyfan o In Celebration.[2] Ym mis Mai a Mehefin 2009, ymddangosodd yn y Menier Chocolate Factory mewn cynhyrchiad o Rookery Nook gan Ben Travers.[3]

Bu farw yn 82 oed.[4]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • The Rag Trade (1962)
  • Open All Hours (1976–1985)
  • Oh No It's Selwyn Froggitt (1977)
  • Last of the Summer Wine (1983)
  • Come Outside (1993–1997)
  • Dinnerladies (1998)
  • Fat Friends (2002–2005)
  • Doctors (2010)
  • Still Open All Hours (2013–2016)
  • EastEnders (2006–2009)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Lynda Baron – Questions and Answers – Interview" (yn Saesneg). Londontheatre.co.uk. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  2. "Orlando Bloom in David Storey's In Celebration at the Duke of York's Theatre from 5 July 2007". London Theatre. 5 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-07. Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.
  3. Billington, Michael (1 Mai 2009). "Theatre review: Rookery Nook, Menier Chocolate Factory, London". The Guardian.
  4. Gibb, Jessica; Rowlands, Robert; Kaur, Jaspreet; Kaur, Jaspreet (7 Mawrth 2022). "Tributes pour in as EastEnders actress Lynda Baron dies". CoventryLive (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mawrth 2022.