Lynn Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lyn Davies)
Lynn Davies
Lynn Davies yn Tocio ym 1964
Ganwyd20 Mai 1942 Edit this on Wikidata
Nant-y-moel Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Taldra1.83 metr Edit this on Wikidata
Pwysau77 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, MBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-athletwr Cymreig yw Lynn Davies CBE (ganwyd 20 Mai 1942, Nant-y-moel (Bro Morgannwg)). Daeth ei lwyddiant mwyaf yn y Gemau Olympaidd yn Tocio ym 1964 pan enillodd fedal aur annisgwyl yn y naid hir. Roedd wedi cyrraedd y rownd derfynol gydag anhawster, gan gyrraedd y nôd yn y rownd ragbrofol ar ei naid olaf o 7.78m, ond yn y rownd derfynol, mewn tywydd gwlyb ac oer, neidiodd 8.07 metr, 4 cm yn bellach na naid olaf yr Americanwr Ralph Boston. Yn ddiweddarach yn ei yrfa, enillodd fedalau aur ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop ym 1966 ac yng Ngemau'r Gymanwlad 1966 a 1970, a medal arian ym Mhencampwriaethau Ewrop 1969. Naid hwyaf ei yrfa oedd 8.23m yn Bern ym 1968. Cystadleuodd hefyd yn y ras gyfnewid 4x100m dros Brydain yn y Gemau Olympaidd ym 1964 ac ym Mhencampwriaethau Ewrop ym 1966.

Ef oedd Capten Tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd 1972 a rheolwr tîm athletau Prydain o 1977 tan 1984. Fe yw llywydd presennol UK Athletics. Cafodd y CBE yn 2006.

Perfformiadau yn y naid hir yn y prif bencampwriaethau[golygu | golygu cod]

Gemau Olympaidd[golygu | golygu cod]

  • 1964: 1af gyda 8.07m
  • 1968: 9fed gyda 7.94m
  • 1972: 18fed yn y rownd ragbrofol gyda 7.64m

Pencampwriaethau Ewrop[golygu | golygu cod]

  • 1962 11eg gyda 7.33m
  • 1966 1af gyda 7.98m
  • 1969 2il gyda 8.07m (gwynt cefn) ar ôl Ter-Owanesjan
  • 1971 4ydd gyda 7,85 m

Pencampwriaethau Ewrop dan Do[golygu | golygu cod]

  • 1967: 1af gyda 7.85m
  • 1969: 2il gyda 7.76m ar ôl Klaus Beer
  • 1972: 8fed gyda 7.64m

Gemau'r Gymanwlad[golygu | golygu cod]

  • 1962: 4ydd gyda 7.72m
  • 1966: 1af gyda 7.99m
  • 1970: 1af gyda 8.06m
Gwobrau
Rhagflaenydd:
Howard Winstone
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1964
Olynydd:
Clive Rowlands
Rhagflaenydd:
Clive Rowlands
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1966
Olynydd:
Howard Winstone