Lydia Becker

Oddi ar Wicipedia
Lydia Becker
GanwydLydia Ernestine Becker Edit this on Wikidata
24 Chwefror 1827 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1890 Edit this on Wikidata
Genefa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseryddwr, biolegydd, ysgrifennwr, botanegydd, casglwr botanegol, golygydd, mycolegydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Swyddymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
llofnod
Lydia Becker's name on the lower section of the Reformers memorial, Kensal Green Cemetery

Roedd Lydia Ernestine Becker (24 Chwefror 182718 Gorffennaf 1890) yn arweinydd ar ddechrau ymgyrch i roi'r bleidlais i ferched, ac yn wyddonydd amatur gyda diddordeb mewn bioleg a seryddiaeth. Mae'n enwog am sefydlu a chyhoeddi'r Cyfnodolyn y Bleidlais i Ferched rhwng 1870 a 1890.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lydia ar Cooper Street, Manceinion, yn ferch hynaf i Hannibal Becker, yr oedd ei dad, Ernst Becker wedi ymfudo Ohrdruf yn Thüringia. Cafodd Lydia ei haddysg adref, fel llawer o ferched ar y pryd. Astudiodd botaneg a seryddiaeth o'r 1850au ymlaen, gan ennill medal aur am bapur ysgolheigaidd 1862 ar arddwriaeth.[1] Ewythr iddi, yn hytrach na'i rhieni, anogodd y diddordeb hwn. Pum mlynedd yn ddiweddarach, sefydlodd Gymdeithas Lenyddol i Fenywod ym Manceinion. Dechreuodd gyfathrebiaeth â Charles Darwin, ac yn fuan wedyn llwyddodd ei argyhoeddi i anfon papur i'r gymdeithas.[2][3][4] Yn ystod eu cyfathrebiaeth, anfonodd Becker lawer o samplau o blanhigion i Darwin, o'r caeau sy'n amgylchynnu Manceinion.[5] Bu iddi hefyd anfon copi i Darwin o'i "llyfr bach", Botany for Novices (1864).[6] Mae Becker yn un i lawer o fenywod yn yr 19 Ganrif a gyfranodd, yn rheolaidd, at waith gwyddonol Darwin.[7] Mae ei chyfathrebiaeth a'i gwaith at ei gilydd yn awgrymu bod gan Becker ddiddordeb penodol mewn planhigion deurywiol a benyw-wrywaidd a oedd, efallai, yn cynnig tystiolaeth 'naturiol' bwerus o drefn rhywiol a chymdeithasol amgen a radicalaidd.[8]

Cafodd hefyd ei chydnabod am ei chyfraniadau gwyddonol ei hun, ac enillodd wobr genedlaethol yn yr 1860au am gasgliad o blanhigion sych a baratowyd gan ddefnyddio dull a luniwyd ganddi fel eu bod yn cadw eu lliwiau gwreiddiol. Rhoddodd bapur botanegol i Gymdeithas Wyddonol Prydain am effaith haint ffyngaidd ar ddatblygiad rhywiol rhywogaethau planhigion.[9] Er i fotaneg barhau i fod yn bwysig iddi, ei gwaith yn ymgyrchu dros roi'r bleidlais i ferched oedd rôl ganolog ei bywyd. Daeth ei rôl yn hyrwyddo ac yn annog addysg wyddonol i ferched a menywod â'r ddau agwedd hwn ynghyd.

Yn hydref 1866 aeth Becker i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Wyddonol Prydain, lle cafodd ei chyffroi gan bapur gan Barbara Bodichon dan yr enw "Rhesymau dros Ryddhau Menywod". Daeth yn ymroddedig i'r mater, ac ym mis Ionawr 1867 cynhaliodd gyfarfod cyntaf Pwyllgor Rhoi'r Bleidlais i Ferched Manceinion, y sefydliad cyntaf o'i fath yn Lloegr.[10]

Rai misoedd wedyn, yn weddw ac yn berchennog siop, ymddangosodd Lilly Maxwell ar y gofrestr bleidleisio ym Manceinion drwyddamwain. Nid hi oedd y cyntaf, ond roedd yn cyfle da am gyhoeddusrwydd.[11] Aeth Becker i ymweld â Maxwell, a mynd â hi i'r orsaf bleidleisio. Canfuodd swyddog canlyniadau enw Maxwell ar y rhestr, a chaniataodd iddi bleidleisio. Aeth Becker ati'n syth i annog menywod eraill a oedd yn ben tŷ yn yr ardal i arwyddo deiseb i gynnwys eu henwau ar y rhestr. Cyflwynwyd eu honiadau yn y llys gan Syr John Coleridge a Richard Pankhurst yn Chorlton v. Lings, ond gwrthodwyd yr achos.[12]

Ar 14 Ebrill 1868, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus cyntaf y Gymdeithas Genedlaethol dros Roi'r Blaid i Fenywod yn Neuadd Masnach Rydd ym Manceinion. Y tair prif siaradwyr oedd Agnes Pochin, Anne Robinson a Becker.[13] Cynigiodd Becker y dylid rhoi hawl i bleidleisio i fenywod ar yr un telerau â dynion.

Wedyn, aeth Becker ar daith ddarlithio yn ninasoedd gigledd Lloegr ar ran y Gymdeithas. Ym mis Mehefin 1869, roedd Becker ac ymgyrchwyr eraill yn llwyddiannus wrth sicrhau'r bleidlais i fenywod mewn etholiadau trefol.[14] Ar ôl ymgyrcho i gynnwys menywod ar fyrddau ysgolion, yn 1870 roedd hi'n un o bedair menyw a etholwyr ar Fwrdd Ysgol Manceinion, a gwasanaethodd arno tan ei marwolaeth.[15] Yn yr un flwyddyn, sefydlodd Becker a'i chyfaill Jessie Boucherett Cyfnodolyn y Bleidlais i Ferched ac yn fuan wedyn, aethant ati i ddechrau trefnu teithiau o ddarlithoedd gan fenywod – rhywbeth prin ym Mhrydain ar y pryd.[16] Mewn darlith yn 1874 ym Manceinion a drefnwyd gan Becker, profodd Emmeline Pankhurst, a oedd yn bymtheg mlwydd oed, ei chyfarfod cyhoeddus cyntaf yn enw'r bleidlais i fenywod.[17]

Y Cyfnodolyn oedd y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd mewn perthynas â'r bleidlais i ferched ym Mhrydain yn y 19ain Ganrif. Roedd yn cyhoeddi areithiau o wahanol fannau ym Mhrydain. Roedd Becker yn cyhoeddi ei chyfathrebiaeth â'i chefnogwyr a'i gwrthwynebwyr, gan gynnwys pan geryddodd AS dros Sir Gaernarfon ar ôl iddo bleidleisio yn erbyn cynnig i roi'r bleidlais i fenywod.[18][19]

Roedd Becker yn wahanol iawn i ffeministiaid eraill yn ei dadl ynghylch hanfodiaeth benyweiddra. Dadleuodd nad oedd gwahaniaeth naturiol rhwng allu dynion a menywod, ac roedd hi'n eiriolwr dros system addysg heb wahaniaethu rhwng rhyw.[20] Roedd hi hefyd yn wahanol i nifer o ymgyrchwyr eraill dros y bleidlais, gan ddadlau'n gryfach dros hawl i fenywod sydd heb briodi bleidleisio. Credai bod menywod a oedd â gŵr a ffynhonnell incwm sefydlog ddim mewn angen y bleidlais cymaint â gweddwon a menywod sengl. Perodd yr agwedd hon iddi fod yn darged i'w gwatwar yn aml mewn papurau newydd a chartŵns.[21]

Yn 1890, ymwelodd Becker â'r drefn spa, Aix-les-Bains, lle bu iddi gwympo'n sâl a marw o ddifftheria yn  63 oed. Yn hytrach na pharhau i gyhoeddi yn ei habsenoldeb, penderfynodd staff Cyfnodolyn y Bleidlais i Fenywod ddod â'r cyhoeddiad i ben.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Botany for Novices (1864)
  • "Female Suffrage" yn The Contemporary Review (1867)
  • "Is there any Specific Distinction between Male and Female Intellect?" yn Englishwoman's Review of Social and Industrial Questions (1868)
  • "On the Study of Science by Women" yn The Contemporary Review (1869)
  • "The Political Disabilities of Women" yn The Westminster Review (1872)

Archifau[golygu | golygu cod]

Mae archifau Lydia Becker yn Llyfrgell y Menywod at yn Llyfrgell Ysgol Economeg Llundain, cyfeirnod 7LEB[dolen marw]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Holton, t. 22.
  2. Harvey, J. (2009). "Darwin's 'Angels': The Women Correspondents of Charles Darwin". Intellectual History Review 19 (2): 197–210. doi:10.1080/17496970902981686.
  3. http://www.darwinproject.ac.uk/entry-5327
  4. http://www.darwinproject.ac.uk/entry-4189
  5. http://www.darwinproject.ac.uk/entry-4170
  6. http://www.darwinproject.ac.uk/entry-4441
  7. 'Women and Science' section of the 'Darwin & Gender' resources Archifwyd 2013-03-30 yn y Peiriant Wayback. Error in webarchive template: Check |url= value. Empty. of the Darwin Correspondence Project
  8. Bernstein, S. D., '‘Supposed Differences': Lydia Becker and Victorian Women's Participation in the BAAS' in Clifford, D., Wadge, E., Warwick, A., & Willis, M. (eds.), Repositioning Victorian Society: Shifting Centres in Nineteenth-Century Scientific Thinking (London, 2006).
  9. Abir-Am, ed. by Pnina G.; Rossiter, Dorinda Outram (1989). Uneasy careers and intimate lives : women in science, 1789-1979 (arg. 2. pbk. pr.). New Brunswick: Rutgers university press. ISBN 978-0813512563.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  10. Liddington a Norris, t. 70; Fulford, tt. 54–55.
  11. Martin Pugh (2000). The March of the Women: A Revisionist Analysis of the Campaign for Women's Suffrage, 1866-1914. Oxford University Press. t. 21. ISBN 978-0-19-820775-7.
  12. Liddington and Norris, t. 71; Phillips, t. 103; Fulford, tt. 63–64.
  13. The Struggle for Suffrage, English Heritage
  14. Herbet, tt 37–38
  15. (Saesneg) Walker, Linda. "Becker, Lydia Ernestine (1827–1890), suffragist leader". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/1899.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus Archifwyd 2013-04-29 yn y Peiriant Wayback. i ddarllen yr erthygl)
  16. Phillips, t. 132.
  17. Bartley, Paula. Emmeline Pankhurst. Llundain: Routledge, 2002. ISBN 0-415-20651-0. t. 22.
  18. Fulford, tt. 77–78.
  19. "Central Committee of the National Society for Women's Suffrage". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-05.
  20. "Lydia Becker – The Life and Times". Famous Chaddertonians. Chadderton Historical Society. 25 May 2008. Accessed on 6 August 2008.
  21. Liddington and Norris, t. 74.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Fulford, Roger. Votes for Women: The Story of a Struggle. Llundain: Faber and Faber Ltd, 1957. OCLC 191255 .
  • Herbet, Michael. Up Then Brave Women: Manchester's Radical Women 1819 – 1918. Cymdeithas Hanes Llafur Gogledd Orllewin Lloegr, 2012. ISBN 978-0-9523410-1-7
  • Holton, Sandra Stanley. Suffrage Days: Stories from the Women's Suffrage Movement. Llundain: Routledge, 1996. ISBN 0-415-10942-6}}0-415-10942-6.
  • Liddington, Jill a Jill Norris. One Hand Tied Behind Us: The Rise of the Women's Suffrage Movement. Llundain: Virago Limited, 1978. ISBN 0-86068-007-X.
  • Phillips, Melanie. The Ascent of Woman: A History of the Suffragette Movement and the Ideas Behind It. Llundain: Abacus, 2004.ISBN 0-349-11660-1.
  • Nodyn:Cite DNBSupp

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]