Lucius Sergius Catilina

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cicero yn ymosod ar Catilina (chwith) yn Senedd Rhufain (ffresgo, 19g)

Gwleidydd Rhufeinig oedd Lucius Sergius Catilina (108 CC - 62 CC. Disgrifir ef fel gwrthryfelwr gan awduron megis Cicero a Sallustius.

Ganed ef i hen deulu uchelwrol oedd wedi colli dylanwad yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn un o gefnogwyr Sulla, ac yn arweinydd carfan o wŷr ieuanc. Ymladdodd yn Rhyfel y Cyngheiriaid yn 98 CC - 88 CC, gan wasanaethu dan Gnaeus Pompeius Strabo yn 89 CC. Gwasanaethodd fel praetor yn 68 CC, yna'r flwyddyn ddilynol fel propraetor yn Affrica.

Methodd y cyfle i ymgeisio am swydd Conswl yn 66 CC, ac yn ôl Sallustius cynllwyniodd i lofruddio'r ddau gonswl yn 65 CC, ond methodd y cynllun. Yn 64 CC, ymgeisiodd am swydd Conswl eto ar gyfer 63 CC, ond yn ôl Cicero, roedd hefyd yn cynllwynio i gipio grym trwy drais. Cafodd Cicero wybod am y cynlluniau ar noson 27 Hydref, a chondemniodd Catilina mewn araith yn y Senedd. Gorfodwyd Catilina i ffoi i Etruria.

Ar 3 Rhagfyr, gorchymynodd Cicero, fel Conswl, gymeryd nifer o gefnogwyr amlwg Catilina i'r ddalfa. Wedi trafodaeth yn y Senedd, condemniwyd hwy i farwolaeth ar 5 Rhagfyr. Roedd Catilina wedi codi byddin yn Etruria, ond gorchfygwyd ef gan fyddin dan Gaius Antonius Hybrida yn gynnar yn 62, a lladdwyd Catilina yn y frwydr.