Lucas Cruikshank

Oddi ar Wicipedia
Lucas Cruikshank
Ganwyd29 Awst 1993 Edit this on Wikidata
Columbus, Nebraska Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lakeview High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd YouTube, digrifwr, sgriptiwr, actor plentyn, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, actor teledu, actor, video blogger, actor llais, actor llais Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://fredfigglehorn.com/ Edit this on Wikidata

Actor comedi Americanaidd yw Lucas Cruikshank (ganed 29 Awst[1] 1993). Bu'n byw yn Columbus, Nebraska. Creodd Cruikshank y cymeriad Fred Figglehorn ar gyfer ei sianel, Fred, ar YouTube.[2] Mae'r fideos yn rhoi'r pwyslais ar Fred Figglehorn, bachgen 6 oed ffuglennol, direidus, a'i broblemau'n rheoli ei ddicter.[3]

Cyflwynodd Cruikshank ei gymeriad Fred Figglehorn yn fideos JKL Productions, sianel YouTube a greodd Cruikshank gyda'i gefndyr John a Katie Smet. Sefydlodd y tri eu sianel JKL Productions ar 11 Mehefin 2006 a ffilmiodd Cruikshank ei fideo Fred yn gyntaf ar 30 Hydref 2006. Ar 30 Ebrill 2008 symudwyd y fideos Fred i'r sianel newydd, Fred, ac ar 1 Mai, rhyddhawyd y fideo swyddogol cyntaf "Fred on Mai Day". Erbyn Ebrill 2009, roedd gan y sianel mwy na miliwn o danysgrifwyr, y sianel gyntaf i ennill hyn.[4]

Yn Rhagfyr 2009, ffilmiodd Cruikshank Fred: The Movie, a darlledwyd ar Nickelodeon ym Medi 2010. Creodd Nickelodeon fasnachfraint am y cymeriad ac maent wedi dechrau gwneud dilyniant i'r ffilm ym Mawrth 2011.[5][6][7]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
TBA Fred: The Movie (dilyniant) Fred Figglehorn Prif rôl
2011 Cartoon Network Hall of Game Ei hun Cyflwynydd o wobr
2010 Fred: The Movie Fred Figglehorn/Derf Prif rôl
2010 Kids' Choice Awards Ei hun Cyflwynydd gwobrau
2009 Hannah Montana Kyle McIntyre Seren gwestai yn yr episod "Come Fail Away"
iCarly Ei hun/Fred Figglehorn Seren gwestai yn yr episod "iMeet Fred"
2009 Teen Choice Awards Fred Figglehorn Cyflwynydd tu ôl i'r llwyfan
2006 - presennol Fred Fred Figglehorn/lleisiau amrywiol Cyfres ar y we


Gwobrau ac enwebiadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Categori Gwobr Canlyniad
2009 Favorite User Generated Video People's Choice Awards Wedi'i enwebu
2009 Choice Web Star Teen Choice Awards Wedi ennill
2010 Choice Web Star Teen Choice Awards Wedi'i enwebu
2010 Iconic Web Star J-14 Teen Icon Awards[8] Wedi'i enwebu

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Trydar #48841375063605248
  2. "Andrew Keen on New Media: Kids with cameras lead the way in giving web users their daily Fred". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2011-08-09.
  3. Fast-talking Fred is the toast of YouTube
  4. "BB Suggests: The Best of Web TV". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-20. Cyrchwyd 2011-08-09.
  5. ‘Fred: The Movie’ Lands on Nickelodeon - Media Decoder Blog - NYTimes.com
  6. Tweet 40139239941210112
  7. Tweet 43282065155829760
  8. "Vote for J-14's Teen Icon Awards!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-12. Cyrchwyd 2011-08-09.