Luc Jones

Oddi ar Wicipedia
Luc Jones
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnLuc Jones
Dyddiad geni (1991-11-21) 21 Tachwedd 1991 (32 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrintiwr
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr cenedlaethol sawl gwaith
Golygwyd ddiwethaf ar
20 Tachwedd 2008

Seiclwr rasio trac Cymreig ydy Luc Jones (ganwyd 21 Tachwedd 1991).

Dechreuodd seiclo gyda chlwb "New Tredegar Nomads" pan oedd yn wyth oed, gan reidio gyda'i dad Ian, sydd hefyd yn gyn-bencampwr sbrintio Cymreig.[1] Roedd yn un o aelodau o "Team TrackCycling.co.uk" yn 2005, a gafodd eu ariannu yn rhannol gan lansiad o frand o goffi gan Magnus Backstedt.[2]

Yn 2007, Jones oedd Pencampwr Cenedlaethol Ieuenctid yn y sbrint a treial amser 500 m. Ef yw'r person cyntaf erioed i ennill y "White Hope Sprint" anrhydeddus yng Nghyfarfod Gwener y Groglith Velodrome Herne Hill a dal teitl pencampwriaeth 16 oed, ar yr un adeg.[1] Aeth ymlaen i ennill ras scratch Ron Beckett yr un diwrnod.[3] Mae Gerry McManus, newyddiadurwr Cycling News wedi ei ddisgrifio gan ddweud fod ganddo "allu sbrintio aruthrol".[4] Fe gystadlodd Jones yn erbyn y reidwyr Iau, yn y categori un yn uwch nag ef yn 2008, a llwyddodd i gipio teitl Pencampwr Sbrint iau i'r rhestr o'i gampau.[5]

Syfrdanwyd nifer pan na chynhwyswyd Jones yn nhîm Rhaglen Datblygu Olympaidd British Cycling yn 2007.[6] Ef yw'r gorau yng Nghymru yn ei grŵwp oedran ar y hyn o bryd, ac mae Jones eisoes wedi cael ei gynnwys yn y tîm. Mae'n anelu at gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012.[7]

Cystadleuodd Jones ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop, yn y categori iau, yng Ngwlad Pwyl ym Medi 2008.[8] Roedd yn aelod o'r sgwad a enillodd y fedal arian yn y sbrint tîm yno.[9]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

2007
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af Baner Prydain Fawr Treial amser 500 m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Ieuenctid
1af "White Hope Sprint", Herne Hill
1af Ras scratch Ron Beckett, Herne Hill
2008
1af Baner Prydain Fawr Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain - Iau
2il Sbrint tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop - Iau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Ian Caleb (19 Mehefin 2008). Cycling: Luc’s pedal power. Rhymney Valley Express.
  2.  Podofdonny (4 Ionawr 2005). Backstedt - Ready for the challenge and the coffee. dailypeloton.com.
  3.  Good Friday International Track Open. British Cycling (21 Mawrth 2008).
  4.  Gerry McManus (21 Mawrth 2008). Good Friday International Track Meeting - IM. cyclingnews.com.:"Prodigious sprinting talent"
  5.  GOLDEN GIRL LEADS WAY FOR WELSH RIDERS. Sports Council Wales (12 Awst 2008).
  6.  McLay and Hall the Real Stars at Rev 20. velodrome.org.uk (Chwefror 2008).
  7.  Jonathan Gravelle (Awst 2008). Raise Your Game: Inspiration - Future heroes. BBC Wales.
  8.  Great Britain Head for European Track Championships. British Cycling (28 Awst 2008).
  9.  Luc Jones. cyclingwebsite.net.



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.